Mae llyfrgelloedd Cymru yn edrych ar y syniad o greu app ar gyfer teclynnau symudol i weithio law yn llaw gyda gwefan llyfrgellcymru.org. Y bwriad yw creu app fydd yn galluogi defnyddwyr hen ac ifanc i ryngweithio gyda’u llyfrgell leol lle bynnag y maent yn y byd.
Mae’r prosiect mewn cyfnod o ymchwil ar hyn o bryd, wrth i ni edrych ar yr arlwy bresennol o appiau gan lyfrgelloedd ledled y byd, tra hefyd yn holi i chi bobl Cymru er mwyn clywed beth yr hoffech weld mewn app ar gyfer Llyfrgelloedd Cymru.
Rydym wedi creu holiadur er mwyn cael barn y bobl, ac y byddwn yn ddiolchgar iawn pe fyswch mor garedig a bwrw draw a gadael eich sylwadau a’n cynorthwyo ni yn y fenter gyffrous yma.
Diolch yn fawr!
