Jeli yn y Llyfrgell!

Ym mis Hydref byddwn yn cael ‘Jeli’ yn y Llyfrgell Genedlaethol Cymru am y tro cyntaf! Nid rhywbeth i’w fwyta fydd y ‘Jeli’ hwn, ond digwyddiad a fydd yn gyfle i bobl weithio, sgwrsio a chydweithio mewn awyrgylch gyfeillgar a hamddenol gan gyfarfod â phobl newydd o’r un anian a hwy.

Bydd yn ddigwyddiad delfrydol i fentrau a busnesau newydd a bychain i ganolig eu maint. Byddwn yn darparu cadeiriau, desgiau, wi-fi, te, coffi a chinio. Cewch gyfle i gwrdd â phobl ddiddorol, siarad a thrafod syniadau a hwy!

Dewch a’ch cyfrifiadur neu beth bynnag fydd angen arnoch i wneud eich gwaith.

I gofrestru ewch at www.inventorium.org/events

Yn ystod y Jeli bydd cyfle i drefnu sesiynau gyda PATLIB Cymru, corff sy’n rhoi cymorth i unigolion wneud y mwyaf o’u syniadau yng Nghymru trwy ddarparu gwybodaeth ar Eiddo Deallusol. Ariennir PATLIB Cymru yn rhannol gan Gronfa Ddatblygu Rhanbarthol Ewrop.

I drefnu eich apwyntiad yn ystod y Jeli, ffoniwch Llinell Gwybodaeth Busnes Llywodraeth Cymru ar 03000 6 03000.

Cefnogir y digwyddiad gan Y Bont (Aberystwyth), Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Prifysgol Aberystwyth a’r Inventorium.

Ble : Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth, Ceredigion. SY23 3BU

Pryd : 4ydd o Hydref 10.00 tan 16.00

 

O ble daw’r enw ‘Jeli’?

Cynhaliwyd y Jeli cyntaf yn Efrog Newydd ym mis Chwefror 2006. Roedd Amit a

Luke yn rhannu tŷ ac wrth eu bodd yn gweithio o’u cartref. Ond yn fuan sylweddolon nhw eu bod yn methu bwrlwm sesiynau syniadau creadigol, y rhannu a’r gwmnïaeth a geir mewn swyddfa draddodiadol.

Felly fe ddechreuon nhw wahodd ffrindiau i’w cartref i weithio am ddiwrnod yr wythnos. Daethant i weld fod gweithio’n agos at bobl newydd a diddorol bob hyn a hyn yn arwain at syniadau newydd a sgyrsiau diddorol.

Roedd y trefniant yn un llwyddiannus o’r dechrau ac fe wnaethpwyd yr achlysur yn un rheolaidd ac felly dechreuodd y Jeli.

 

Mae'r cofnod hwn hefyd ar gael yn: English

Cyhoeddwyd y cofnod hwn yn Heb ei gategoreiddio a thagiwyd fel . Nodwch y ddolen barhaol.

Leave a Reply

Your email address will not be published.

9,672 Spam Comments Blocked so far by Spam Free Wordpress

You may use these HTML tags and attributes: <a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>