Ym mis Medi 1973, adeg chwyldro militaraidd i ddisodli’r Arlywydd Salvador Allende, yr oedd grŵp o ffrindiau yn eistedd gyda’i gilydd yn Stadiwm Chile yng nghanol miloedd o bobl eraill a oedd wedi eu dal yn gaeth gan ffasgwyr. Yr oedd un o’r ffrindiau, Victor Jara, yn brysur yn cyfansoddi cân ar ddernyn o bapur. Cyn cael ei lusgo i ffwrdd, llwyddodd i drosglwyddo’r gân i ffrind a’i cuddiodd yn ei hosan. Hon fyddai ei gân olaf.
Adroddir hanes Victor Jara gan ei wraig, Joan Jara, yn ei chofiant grymus Victor: an unfinished song (Bloomsbury, 1998). Deuai Victor Jara o gefndir tlawd a difreintiedig iawn y tu allan i Santiago. Yr oedd ei fam o dras Indiaid Mapuche ac etifeddodd ei dawn hi i chwarae’r gitâr a chanu caneuon gwerin. Llafuriodd ei fam yn galed i sicrhau bod ei phlant yn cael addysg a datblygodd Victor i fod yn brif ganwr gwerin Chile, yn gyfarwyddwr theatrig ac enillodd swyddi prifysgol.
Nid anghofiodd ei wreiddiau tlawd ac roedd wrth ei fodd yn teithio o’i gartref ger yr Andes i gwrdd â gweithwyr cyffredin a chyfansoddi caneuon amdanynt. Dotiai at eu traddodiadau, eu dawnsfeydd a’u llên gwerin, ond yn ogystal â chanu am harddwch diwylliant y brodorion, fe ganodd hefyd am eu dioddefaint.
Roedd bywyd yn rhad a garw i bobl dlawd Chile. Yn ystod streic yn El Salvador yn 1965, er enghraifft, lladdwyd mwyngloddwyr a’u gwragedd gan heddlu arfog, a phan geisiodd nifer o drueiniaid tlawd ymgartrefu yn Puerto Montt, saethwyd nifer ohonynt yn farw. Brifwyd Jara i’r byw gan gyflafan Puerto Montt, a chanodd gân brotest angerddol. I rai, roedd y gitarydd a’r canwr hwn yn rhy llafar o lawer, a daeth yn darged arbennig i ffasgwyr Stadiwm Chile.
Cofiai ffrindiau Victor Jara weld ei wên gynnes wrth iddo eu hadnabod yn y Stadiwm, er ei fod eisoes wedi ei anafu. Cyn cael ei ladd gan filwr, maluriwyd ei ddwylo a’i herio’n wawdlyd i berfformio – os gallai. Heb fedru gafael yn ei gitâr mwyach, fe ganodd am y tro olaf. Gorchmynwyd difetha ei holl waith a phob recordiad o’i lais a chondemniwyd seiniau hardd yr offerynnau cerdd brodorol.
Llwyddodd cân anorffenedig Jara i adael y Stadiwm yn esgid ei ffrind a’r recordiadau gwaharddedig i adael Chile.
Mae cân wych Dafydd Iwan, “Cân i Victor Jara”, yn cofnodi dewrder y dyn a ddywedodd yn un o’i ganeuon y byddai’n “canu wrth farw”. Gellir clywed cân Dafydd Iwan drwy archebu copi’r Llyfrgell o’r casét “Bod yn rhydd” (Sain, 1979).
Heini Davies

