Rwyf ar hyn o bryd yn paratoi eitemau newydd i’w hychwanegu at ein casgliad digidol ni o ddeunyddiau Carcharorion Rhyfel, ac ymysg yr eitemau diweddar gan y Parchedig Emrys W. Evans, un o’r carcharorion Cymreig yng Ngwersyll Stalag IVB, y mae llun o angladd yr Awyr-ringyll J. ‘Taffy’ Jones.

Angladd yr Awyr-ringyll J. ‘Taffy’ Jones DFM
Mae’n debyg fod ‘Taffy’ wedi cychwyn mentro tu allan yn gynnar bob bore i ddwyn glo ychwanegol o’r cwt glo gyferbyn â lle roeddent yn cysgu. Roedd yn rhaid iddo fod yn gyfrwys ac yn gyflym er mwyn osgoi chwiloleuadau a gynnau’r Almaenwyr. Roedd y glo ychwanegol hwn yn galluogi i ‘Taffy’ a’i gyd-garcharorion fedru tanio’r stôf a chael gwresogi eu hunain yn y bore. Roedd hyn yn beth mentrus a dewr i’w wneud, ond yn anffodus fe’i ddaliwyd un bore a saethwyd ef yn farw gan un o’r swyddogion Almaenig.
Claddwyd Taffy gydag anrhydeddau milwrol llawn, a rhyfedd yw gweld y Rhuban Natsiaidd ar y dorch blodau ar ei arch, gyda’r swyddogion Almaenig yn perfformio’r saliwt uwch ei fedd. Rhyfeddach fyth yw meddwl fod yr union swyddog a saethodd ‘Taffy’ yn eu mysg!
Byddwn yn ychwanegu’r eitemau newydd yma i’r drych dros y misoedd nesaf.
Siân Medi Davies, Uned Metadata Digido, Llyfryddiaeth Hanesyddol Cymru a Safonau
