Os oeddech chi’n blentyn ar droad y ganrif ddiwethaf a’ch bryd ar ddarllen llyfrau Cymraeg doedd y dewis ddim yn helaeth. A’r hynny oedd i’w cael yn aml yn llawn o foeswersi a phwyslais ar ba mor bechadurus oedd pob plentyn bach bochgoch. Ond roedd arwyddion bod tro ar fyd wrth i O. M. Edwards feithrin to newydd o lenorion rhwng cloriau ei gylchgrawn Cymru.
Felly mae canmlwyddiant cyhoeddi Hunangofiant Tomi yn werth ei nodi. Daethpwyd i ystyried y gyfrol hon yn glasur a chymeriadau megis Tomi Sarah Jones, Jac y Foel a Wil y Llan yn adnabyddus iawn ymysg y Cymry. Ynddo ceir hanesion am griw o blant llawn hwyl a drygioni a thueddir i osgoi moeswersi a sentimentaliaeth a fu’n nodwedd o lenyddiaeth oes Fictoria.
Gweinidog Wesleaidd o’r enw Edward Tegla Davies oedd awdur y gyfrol. Ganwyd i deulu tlawd iawn ym mhentref Llandegla, Sir Ddinbych. Dywed yn ei atgofion mai prin iawn y gallai ei dad ysgrifennu.
Adlewyrchir cefndir economaidd a chymdeithasol bywyd cefngwlad a phentrefol Cymru yn y storïau hyn. Yn ogystal ag anifeiliaid fferm a dyddiau ysgol mae digwyddiadau’r capel a bywyd crefyddol yn chwarae rhan amlwg iawn. Efallai mai rhan o atyniad Tomi oedd bod cymaint o’r darllenwyr yn gallu uniaethu â’r bywyd hwn ar y pryd. Mae’n gofnod hanesyddol bellach o oes sydd wedi hen ddiflannu. Felly darllenwch …
Ail-gyhoeddwyd Hunangofiant Tomi gan Y Llyfrfa Fethodistaidd ym Mangor yn 1947 ac 1960.
Cyn cloi, ffaith ddiddorol am Tegla yw ei fod wedi cael cynnig O.B.E. gan y Frenhines ar ddiwedd ei oes. Gwrthododd yr anrhydedd gan esbonio mewn llythyr at gyfaill ‘ni allaf fy ngweld fy hun yn Officer of the British Empire a minnau wedi ymdynghedu i fod yn was i Un a fu farw ar groes’.
Gwyn Tudur Davies



