Nos Wener diwetha, aethom lawr o Aberystwyth i Abertawe i ddangos y ffilm gomedi o 1950, Valley of Song yng Nghanolfan Taliesin. Roedd y dangosiad yn ran o broject blynyddol Estyn Allan y Llyfrgell Genedlaethol.
Cyn y brif ffilm, dangoswyd ffilm archif leol, Come With Me Swansea. Gwnaethwyd y ffilm yn 1952, ac mae’n rhoi cipolwg ar fywyd yn Abertawe yn ystod y 1950au trwy lygaid rhai pobol lleol, gan gynnwys Leonard Bruton, fforman yn un o’r gweithfeydd tun.
Croesawyd y Llyfrgell yn swyddogol i Abertawe, gan arweinydd Cyngor Dinas Abertawe, y Cyngh. David Phillips. Daeth 225 i weld y ffilmiau, y nifer fwyaf sydd erioed wedi mynychu dangosiad wedi’i drefnu gennym.
Bu ymateb y gynulleidfa ar ddiwedd yn gadarnhaol iawn, gyda sawl un yn dangos diddordeb mewn mynychu rhai o ddigwyddiadau eraill y Llyfrgell sydd wedi’u trefnu dros gyfnod yr Estyn Allan.
Yn nechrau 2013, bydd Studio Canal yn rhyddhau Valley of Song ar DVD. Byddant hefyd yn rhyddhau’r ffilm glasur o 1949, The Last Days of Dolwyn. Mae Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru wedi gweithio yn agos â Studio Canal i sichrau bod y ffilmiau hyn yn cael eu rhyddhau, i sicrhau eu bod ar gael i gynulleidfaoedd ehangach sydd eisiau eu mwynhau dro ar ôl tro.
