Ennill Ysbrydoliaeth…

Oes gen ti syniad gwych am gynnyrch newydd? Wyt ti’n chwilio am fflach o ysbrydoliaeth? Paid edrych dim pellach.

Mae’n anhygoel cymaint o eitemau sy’n bodoli o dan do’r Llyfrgell ac mae’r cyfan yma ar eich cyfer chi. Mae prosiect newydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn agor y drws i fusnesau ac unigolion i fanteisio ar hyn oll. Trwy’r prosiect, mae cyfle i chi ennill trwydded am ddim i ddefnyddio’r casgliadau mewn modd masnachol. P’un a’i bod trwy gynnyrch, wasanaeth neu’r ddau.

Yr hyn sy’n cael ei gynnig i fusnesau yw copïau cydraniad uchel o unrhyw eitemau digidol. Golyga hynny bod modd i chi bori drwy’r casgliadau o gynhesrwydd eich cartref, swyddfa neu weithdy.

Mae’r Llyfrgell Genedlaethol yn cael ei hystyried yn un o’r canolfannau sgiliau digido gorau o’i math yn Ewrop. Manteisiwch ar y cyfle i’w defnyddio.
Dau beth sydd rhaid gwneud er mwyn manteisio ar y cyfle unigryw hwn, sef:
1)    Bod o fewn ardaloedd cydgyfeiriant Cymru
2)    Mynychu un o’n digwyddiadau digido i fusnes

Mae mor syml a hynny! Mae’r digwyddiad nesaf yn cael ei gynnal yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth ar y 13eg o Dachwedd 2012. Am wybodaeth pellach cysylltwch â:
Mari Grug ar 01970 632983 neu; mari.grug@llgc.org.uk

Cyhoeddwyd y cofnod hwn yn Digido a thagiwyd fel . Nodwch y ddolen barhaol.

Leave a Reply

Your email address will not be published.

9,658 Spam Comments Blocked so far by Spam Free Wordpress

You may use these HTML tags and attributes: <a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>