Tros y can mlynedd diwethaf mae’r Llyfrgell wedi casglu a gwarchod rhai o drysorau pennaf y genedl. Ond mae ychwanegu a chyfoethogi ein casgliadau yn broses sy’n parhau wrth gwrs. Ac mae’n syndod pa drysorau eraill mawr a bach sydd yn dod i’r golwg o dro i dro. Yn aml deuir ar draws gwybodaeth amdanynt mewn catalogau llyfrwerthwyr neu arwerthiannau’r tai ocsiwn. Weithiau bydd rhai o’r gwerthwyr hyn yn cysylltu â ni pan ddaw eitem o ddiddordeb Cymreig i’w dwylo. A dyna ddigwyddodd yn ddiweddar.
Cefais alwad ffôn o berfeddion Lloegr gan lyfrwerthwr yn dweud bod ganddo rywbeth a allai fod o ddiddordeb i ni. Dywedodd bod llysieulyfr bychan printiedig yn dyddio ‘nôl i’r unfed ganrif ar bymtheg wedi dod i’w feddiant a bod nodiadau Cymraeg ar nifer o’r tudalennau. Gofynnais am gael gweld y gyfrol ac fe gyrhaeddodd o fewn ychydig ddyddiau. O’i weld cymerodd hi fawr o amser i benderfynu bod y gyfrol hon yn haeddu lle yng nghasgliadau’r Llyfrgell.
Teitl y gyfrol yw Plantarum effigies a’r awdur yw Leonhart Fuchs. Cyhoeddwyd yr argraffiad hwn yn ninas Lyon, Ffrainc, ym 1552. Ceir ynddo dros bum cant o dorluniau pren cain iawn o wahanol blanhigion gyda’u henwau mewn Groeg, Lladin, Ffrangeg, Eidaleg ag Almaeneg. Yna mewn llawysgrifen gynnar iawn nodir enwau rhai o’r planhigion yn Gymraeg – Hwb yr ychen, Y Wermod(?) gyffredin, Llygad y dydd a llawer mwy.
Ni wyddwn pwy yw perchennog y llaw gymen hon sydd o bosib yn dyddio ‘nôl mor gynnar â diwedd yr unfed ganrif ar bymtheg. Ai yng Nghymru y gwnaethpwyd yr ychwanegiadau hyn neu ar y cyfandir? Pwy a ŵyr? Efallai bydd modd i ymchwilwyr y dyfodol ateb cwestiynau fel hyn.
Manylion llyfryddol: Fuch, Leonhart. Plantarum effigies. Lugduni: apud Balthazarem Arnoulletum 1552. 3ydd arg.
Gwyn Tudur Davies
