Canu Carolau yn y Llyfrgell

Mae’n swyddogol -  mae’r Nadolig wedi cyrraedd y Llyfrgell Genedlaethol wedi i ni gynnal ein gwasanaeth carolau blynyddol ar ddydd Mercher 12 Rhagfyr.

Mae hi bellach yn draddodiad poblogaidd i gynnal gwasaneth o’r fath, ac roedd hi’n braf i gymeryd ychydig o seibiant yn ystod y rhuthr arferol adeg yma o’r flwyddyn i cael amser i feddwl, ystyried a mwynhau neges yr Ŵyl.

Rydym yn gwahodd gwahanol gapeli ac eglwysi’r dre i gymeryd y rhannau arweiniol, ac eleni gwahoddwyd aelodau Eglwys Sant Mihangel dan ofal y Parchedig Ganon Stuart Bell, gyda David Evans yn cyfeilio wrth yr organ.

Gosododd y gwasanaeth naws hyfryd wrth i ni ganu nifer o  garolau traddodiadol ynghyd â darlleniadau pwrpasol, a hyfryd oedd gweld y lle’n gyfforddus lawn. Diolch yn fawr iawn i aelodau Eglwys Sant Mihangel, Aberystwyth am eu cyfraniad gwerthfawr.

Cynhaliwyd casgliad ar diwedd y gwasanaeth gan aelodau Cymdeithas Staff y Llyfrgell a llwyddwyd i godi £60.00 tuag at Ward Angharad, ward y plant yn Ysbyty Bronglais, Aberystwyth.

Diolch yn fawr iawn i bawb cyfrannodd at y gwasanaeth, ac i bawb am eu cefnogaeth!

 

Cyril Evans

Cyhoeddwyd y cofnod hwn yn Newyddion a Digwyddiadau. Nodwch y ddolen barhaol.

Leave a Reply

Your email address will not be published.

9,658 Spam Comments Blocked so far by Spam Free Wordpress

You may use these HTML tags and attributes: <a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>