Jac Jones

‘Mynd a mynd yn y car i fyny ac i lawr’ (Mary Vaughan Jones)

Darlun o lyfr Mary Vaughan Jones, Llyfr Mawr Jac y Jwc gan Jac Jones

Dewch i weld casgliad hyfryd o waith Jac Jones, yr arlunydd a’r awdur llyfrau plant o Fôn ac enillydd diweddar Gwobr Mary Vaughan Jones. Caiff y wobr ei dyrannu bob tair blynedd i unigolyn sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i faes llyfrau plant yng Nghymru dros gyfnod helaeth o amser. Mae Jac Jones yn adnabyddus am greu’r cymeriad Jac y Jwc yn 1977 fel rhan o gyfres bytholwyrdd Sali Mali.

Mae’r arddangosfa wedi ei threfnu gan Wasanaeth Addysg Llyfrgell Genedlaethol Cymru, mae i weld yn ardal arddangos Hafan sydd ar lawr gwaelod y Llyfrgell.

Cyhoeddwyd y cofnod hwn yn Heb ei gategoreiddio. Nodwch y ddolen barhaol.

Leave a Reply

You may use these HTML tags and attributes: <a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>