Calendr, dyddiadur ac almanac

A ydych wedi newid eich calendr eto, neu droi dail dyddiadur newydd?

Yn y gorffennol, ar drothwy blwyddyn newydd, tynnid yr hen almanac printiedig oddi ar linyn ar ochr  y pentan, gan roi un newydd glân yn ei le. Proffwydai’r almanac fân nodweddion y misoedd oedd i ddod, a cheid ynddo hefyd ddyddiadau ffeiriau, calendr llawn, rhai cerddi, ac ambell hysbyseb. Ynddo hefyd y byddai’r hen bobl yn cofnodi prif ddigwyddiadau’r fferm, a hynny mewn llawysgrifen digon carbwl yn aml.

Rhwng cyhoeddi’r cyntaf ym 1680, a’r olaf ym 1953, cyhoeddwyd cyfresi o almanaciau Cymraeg gan nifer o argraffwyr, ac mae cannoedd ohonynt yng nghasgliadau’r Llyfrgell Genedlaethol. Yr arloeswr oedd Thomas Jones ‘yr Almanaciwr’ (1648-1713), y byddwn yn 2013 yn cofio tri chanmlwyddiant ei farw. Yn frodor o Dre’r-ddôl, ger Corwen, ymfudodd Jones i Lundain yn ieuanc, gan gefnu ar grefft y teiliwr, a dechrau argraffu. Trwy drwydded ym 1679, cafodd fonopoli swyddogol ar argraffu almanaciau Cymraeg, a’r flwyddyn ddilynol, cyhoeddodd ei almanac cyntaf, gan ddechrau cyfres flynyddol boblogaidd a oedd i barhau hyd flwyddyn ei farw.

Wedi iddo symud i fyw i’r Amwythig, gwnaeth Thomas Jones gyfraniad amhrisiadwy i lenyddiaeth Cymru trwy gyhoeddi llyfrau, ond fel cyhoeddwr ac argraffydd yr almanac blynyddol yr enillodd serch y werin, ac y cyrhaeddodd gynulleidfa eang. Edrychai pobl ymlaen i ddarllen ei broffwydoliaethau niwlog, hanes ei afiechydon chwyslyd ei hunan, ynghyd â’i feirniadaeth goeglyd ar gymdeithas ei ddydd.

Heddiw, byddwn yn prynu calendrau neu ddyddiaduron printiedig mewn siopau ar y stryd fawr, neu’n eu defnyddio ar ein cyfrifiaduron. Ond wrth droi dail yr hen almanaciau yn ystod tymor y Nadolig, ni allaf beidio meddwl am y cenedlaethau o grwydriaid digartref fu’n teithio o ddrws i ddrws, ac o ardal i ardal yng Nghymru, i werthu’r llyfrynnau bychain hyn yn y gorffennol. Caent ychydig geiniogau o elw am eu llafur, a hynny i ennill eu tamaid yng ngerwinder gaeaf.

Maredudd ap Huw

Cyhoeddwyd y cofnod hwn yn Archifau a Llawysgrifau. Nodwch y ddolen barhaol.

Leave a Reply

Your email address will not be published.

9,658 Spam Comments Blocked so far by Spam Free Wordpress

You may use these HTML tags and attributes: <a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>