Mae hi’n wythnos brysur i ni fel Uned Hyrwyddo wrth i ni baratoi ar gyfer Diwrnod Dot, sef diwrnod yn llawn gweithgarwch am ddim i ddathlu ein harddangosfa gyfredol Dot Dot Dash – Cymru’n Cyfathrebu, sy’n olrhain hanes cyfathrebu yng Nghymru dros y ganrif ddiwethaf.
Beth am ymuno â ni i gael teithiau tu ôl i’r llenni o Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru?
Cyfle prin i gael mynd i’r mannau hynny na fyddech yn cael mynd iddynt fel ymwelwyr arferol.
Pam eu bod yn galw un o’r celloedd storio yn Limbo? Dewch ar y daith ac fe gewch yr ateb….
Bydd y cartŵnwyr Mike Collins a David Roach sydd wedi darlunio Doctor Who, Batman a Superman yma yn cynnal gweithdai cartŵn ar gyfer plant rhwng 9 a 13 mlwydd oed. Oherwydd poblogrwydd y gweithdai hyn – mae’r tocynnau i gyd wedi mynd!
Galwch heibio’r Drwm – bydd y ffilm ‘Your Channel’ gan ITV yn bwrw golwg nôl ar raglenni’r 1950au a 1960au.
……ac yn well na dim, fydd dim rhaid i chwi boeni am barcio na cherdded i fyny Allt Penglais gan bydd modd teithio ar Bws03 am ddim yn ystod Diwrnod Dot.
Rhywbeth at ddant y teulu oll – edrychwn ymlaen yn fawr at gael eich croesawu i’r Llyfrgell!
