Casgliad y Canon D.S. Yerburgh

Rhoddwyd casgliad y Canon David S. Yerburgh i’r Llyfrgell Genedlaethol ‘nôl yn 2010.  Casgliad yw’r rhain o brintiau lliw a du a gwyn sy’n dyddio gan fwyaf o’r 19eg ganrif a diwedd y 18fed ganrif ac sy’n darlunio rhaeadrau ledled Cymru, o ddisgynfa fawreddog Abergwyngregyn yn y Gogledd i Ferw Rhondda yn y De. Cyfres o raeadrau – braidd yn undonog (os maddeuwch y mwyseirio) meddech chi. Wel, nac ydyn, oherwydd nad y rhaeadr yn unig sydd wedi’i bortreadu mewn nifer o’r darluniau (nac ychwaith sydd bob tro’n ganolbwynt i’r darlun) ond delwedd gyfan o dirlun yr ardal o’i chwmpas, efallai’n cynnwys pobl – bugail gyda’i gi a’i braidd, cerddwyr hamddenol – neu adeiladau e.e. melin (y ffynhonnell ddŵr cyfagos yn hanfodol i’w gynhaliaeth), ffermdy neu hyd yn oed, mewn un enghraifft, lety gwledig sy’n adnabyddus heddiw fel yr Hafod Arms Hotel. Bu’r arlunydd a’r engrafwr – weithiau yr un yw’r ddau – wrthi’n cyd-weithio i greu campwaith o fanylder cywrain, mor fanwl yn wir fel bod angen syllu am rai munudau cyn sylwi ar y bachgen yn pysgota ar lan yr afon, y ci’n rhedeg drwy’r goedlan ar y lan, yr wyneb sy’n ymddangos yn ffenest uchaf y tyddyn tu hwnt i’r bompren.

Pan ewch nesaf i ymweld ag Abergwyngregyn, am dro i Raeadr Dolgoch, neu i edmygu gwynder ewynnog Sgŵd Gwladys, pan gyfeiriwch wyneb eich ffôn symudol i gofnodi’r olygfa mewn chwinciad yn y fan a’r lle, cofiwch y bu eraill yno o’ch blaen gydag offer dipyn mwy anhylaw. Mae canlyniad eu llafur yma trwy garedigrwydd un gŵr.

Cyhoeddwyd y cofnod hwn yn Archifau a Llawysgrifau. Nodwch y ddolen barhaol.

Leave a Reply

Your email address will not be published.

9,654 Spam Comments Blocked so far by Spam Free Wordpress

You may use these HTML tags and attributes: <a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>