Syllwr newydd mapiau

Rydym yn y broses o greu syllwr newydd ar ein gwefan a fydd yn arddangos detholiad o fapiau’r Llyfrgell Genedlaethol. Ar hyn o bryd mae yna fapiau sirol gan Thomas Taylor a mapiau morwrol gan Lewis Morris a William Morris ar y Drych Digidol.

Wedi i ni gwblhau’r gwaith yma byddwn yn cynnig mynediad at ystod lawer ehangach o fapiau o Gymru. Bydd y syllwr newydd yn cynnwys mapiau sy’n darlunio Cymru fel gwlad gyfan ac wedi ei rhannu yn ôl ei siroedd gwahanol. Byddwn hefyd yn arddangos mapiau o ystadau Cymru.

Wrth weithio ar y prosiect yma, mae ambell i fap wedi dal fy llygaid, e.e. map Christopher Saxton o Gymru, 1580:

Map Proflen Christopher Saxton o Gymru (MAP 01003), o 1580:

“Cambriae (quae nunc vulgo Wallia nuncupatur)” gan Christopher Saxton, 1580 (MAP 01003):

 

Hefyd, dyma fap lliwgar o Geredigion gan John Speed, a gyhoeddwyd yn wreiddiol yn 1611 yn ei Theatre of the Empire of Great Britain:

Cardigan shyre described gan John Speed, [1676]  (MAP 5151)

“Cardigan shyre described” gan John Speed, [1676] (MAP 5151)

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Ar lefel bersonol, mae wedi bod yn ddiddorol darganfod nifer o fapiau o ffermydd a thiroedd cyfagos i’m hardal enedigol ym mhlwyf Penbryn, De Ceredigion, yng Nghyfrol 39 o fapiau Ystâd Gogerddan gan Thomas Lewis. Yn 1784 roedd Ysgwier Ystâd Gogerddan, Edward Loveden Loveden, yn berchen ar lawer o dir yn yr ardal, gan gynnwys ein fferm deuluol ni heddiw:

map000583

“Maps of the estate of Edward Loveden Loveden Esqr in the several counties of Cardigan and Pembroke, South Wales” gan T. Lewis,1787 (Casgliad Ystad Gogerddan, Cyfrol 39, tud. 28r)

 

Siân Medi Davies, Uned Metadata Digido, Llyfryddiaeth Hanesyddol Cymru a Safonau

Cyhoeddwyd y cofnod hwn yn Digido a thagiwyd fel , , , , , . Nodwch y ddolen barhaol.

Leave a Reply

Your email address will not be published.

9,654 Spam Comments Blocked so far by Spam Free Wordpress

You may use these HTML tags and attributes: <a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>