Bydd un o’r nifer o weithiau celf sydd ar gadw yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn cael ei daflunio ar adeiladau yn nhair o ddinasoedd Cymru heno fel rhan o ddigwyddiad i ddathlu Your Paintings– gwefan sy’n arddangos casgliad o 210,000 o weithiau olew o bob rhan o’r Deyrnas Gyfunol.
Rhwng 4.30pm a 10pm bydd Sunflowers with mountains beyond, 1940-1950 gan Syr Kyffin Williams yn cael ei arddangos ymhlith gweithiau eraill ar furiau Canolfan y Ddraig Goch, Caerdydd; Adeilad Miss Selfridge, Princess Way, Abertawe; a Marks & Spencer’s, Wrecsam.
Mae’r tafluniadau yn nodi dechrau mis o arddangosfeydd a digwyddiadau a drefnwyd gan y BBC a’r Public Catalogue Foundation i ddathlu cwblhau Your Paintings. Mae’r Llyfrgell yn arddangos bron i 2,000 o weithiau o’i chasgliadau ar y wefan a gallwch weld y cyfan yma.
