Prynwyd Llawysgrif Boston o Gyfreithiau Hywel Dda mewn ocsiwn yn Llundain gan y Llyfrgell Genedlaethol y llynedd, gyda nawdd Cronfa Dreftadaeth y Loteri. Yn sgil hyn cododd y cyfle i gynnig cyfnod o wirfoddoli ar y prosiect, ac o dderbyn hysbyseb drwy ein hadrannau ym Mhrifysgol Aberystwyth cyn y Nadolig, manteisiodd y ddwy ohonom ar y cyfle.
Trefnwyd pedair taith dywys i arddangos y llawysgrif i’r cyhoedd ym mis Ionawr 2013, gan roi taith yr un i bedair ohonom a lwyddodd i gael lle ar y prosiect. Derbyniodd y ddwy ohonom hyfforddiant i baratoi at ein teithiau: treuliasom brynhawn yn ymdrin â gwahanol lawysgrifau hynafol yn dyddio nôl cyn belled â’r drydedd ganrif ar ddeg. Cawsom arweiniad ar sut i afael yn gywir yn y deunydd, a hynny er mwyn sicrhau eu bod yn aros yn y cyflwr gorau posibl ar gyfer y cenedlaethau i ddod.
Bu’r hyfforddiant hwn wedyn o gymorth ar y teithiau tywys ar y 21ain a’r 23ain o Ionawr. Ein gwaith oedd arddangos rhannau o Lawysgrif Boston i’r ymwelwyr: yr hen gloriau a’r dail memrwn, a sut yr oedd plygiadau yn ffurfio cyfrol trwy gyfrwng y broses rwymo. Yn ychwanegol, dangosem ffacsimili o lawysgrif Peniarth 28, llawysgrif gyfreithiol arall sy’n cael defnydd helaeth y tu hwnt i adeilad y Llyfrgell.
Bu’r profiad yn un gwerthfawr ac unigryw i’r ddwy ohonom. Cawsom weithio gyda’r llawysgrif arbennig hon, a gyda staff y Llyfrgell a oedd yn hynod gefnogol ac mor barod i roi eu hyder ynom a rhyddid i fwynhau’r profiad. Roedd y prosiect yn un cyffrous i fod yn rhan ohono, a bu’r dyddiau yn rhai cofiadwy iawn.
Mared a Jess
