Newyddiadurwyr Cymru : Gareth Vaughan Jones

Ar ddydd Sadwrn, 16 Mawrth 2013, bu’r newyddiadurwr Guto Harri a’r ymchwilydd Wynford Jones yn ymweld ậ’r Llyfrgell Genedlaethol, ar ran cwmni Tinopolis, Llanelli, er mwyn ffilmio rhaglen ddogfen sylweddol awr o hyd ar y newyddiadurwr enwog Gareth Richard Vaughan Jones (1905-35). Y bwriad yw darlledu’r rhaglen ar S4C yn ystod yr hydref eleni fel rhan o gyfres uchelgeisiol ar newyddiadurwyr nodedig a hanai o Gymru.

Blog JGJ GVJ

John Graham Jones a Guto Harri yn Ystafell y Cyngor

Roedd Gareth Jones yn frodor o’r Barri ac yn fab i’r Uwchgapten Edgar Jones, prifathro Ysgol Ramadeg y Bechgyn lleol, a’i wraig Annie Gwen Jones. Ac yntau’n ieithydd arbennig o ddisglair a thalentog, graddiodd Gareth o Goleg Aberystwyth a Phrifysgol Caergrawnt cyn mwynhau gyrfa gyffrous, llawn antur fel ymchwilydd (gan gynnwys cyfnodau ar staff Lloyd George), newyddiadurwr uchel ei barch a theithiwr di-ofn. Cyflwynwyd archif sylweddol o’i ohebiaeth a’i bapurau i ofal y Llyfrgell gan aelodau o’i deulu ym 1987 a 2007-11.

Defnyddiwyd yr archif wych hon yn helaeth wrth baratoi’r rhaglen a wnaeth ddefnydd mawr o lythyrau manwl Gareth Jones at ei deulu, ynghyd ậ’i ddyddiaduron a’i lyfrau nodiadau poced a gadwodd yn gydwybodol wrth grwydro’r byd, gan gynnwys teithiau i wledydd mwy diarffordd fel Rwsia, Tseina, Japan a Manchuria.

Ceir yn ogystal drafftiau a chopïau o’r erthyglau craff a threiddgar a gyhoeddodd mewn papurau newydd a chylchgronau safonol dros nifer o flynyddoedd, ynghyd ậ thorion papur newydd niferus ohonynt. Jones oedd yn bennaf gyfrifol am ddatgelu i’r gorllewin sgil-effeithiau erchyll y newyn yn yr Wcran ganol y 1930au oherwydd gweithredu polisïau Stalin. Llofruddiwyd Gareth Jones gan ‘ladron’ ym Mongolia Mewnol ar 12 Awst 1935 ac yntau ar drothwy ei ben-blwydd yn ddeg-ar-hugain mlwydd oed. Yn drist iawn, daeth bywyd hollol unigryw llawn addewid a photensial i ben yn ddisyfyd.

J. Graham Jones

Cyhoeddwyd y cofnod hwn yn Archifau a Llawysgrifau. Nodwch y ddolen barhaol.

Leave a Reply

Your email address will not be published.

9,654 Spam Comments Blocked so far by Spam Free Wordpress

You may use these HTML tags and attributes: <a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>