Bu farw Hugh Hughes gant a hanner o flynyddoedd yn ôl. Cyhoeddodd y North Wales Chronicle ar 28 Mawrth 1863: ‘On the 11th instant, at Malvern aged 73, Hugh Hughes Esq. artist. The deceased was a good Christian, a man of sterling qualities, upright, and honourable in all his transactions.’
Pam tybed bu i arlunydd o bwys cenedlaethol symud i Loegr yn ei ddyddiau olaf? Pam ei fod yn cael ei adnabod, nid yn gymaint am ei gelf, ond am ei fod yn ddyn cadarn, moesol? A oes modd esbonio hyn yn rhannol trwy honni fod Hughes yn barod iawn i wrthsefyll syniadau enwogion ei ddydd, ac yn barod ac abl i sefyll dros Gymru a’i phobl?
Mae gwaith celfyddydol Hughes yn achos dathliad arbennig eleni hefyd. Cyhoeddodd Beauties of Cambria fel cyfrol lawn ym 1823, cyfrol sy’n cynnwys chwe deg o brintiau cain wedi eu hengrafu gan Hughes ei hunan, gyda nodiadau’r arlunydd ar gyfer pob llun. Mae’r disgrifiadau’n adlewyrchu ei ffordd o weithio: er enghraifft, yn y print ‘Brynllys Castle’, mae’n nodi: ‘this view was taken on the 23rd September 1820 the figures were sketched at the same time from life, the subjects passing, on their return from the fair at Talgarth.’
Pam cofio marw Hughes? Roedd ganddo sgiliau a diddordebau eang iawn. Gallai baentio tirluniau a phortreadau, a gallai gynhyrchu cartwnau gwych. Fel awdur, ysgrifennodd yn danllyd a chlir, ac fel Cymro, roedd yn fodlon siarad ar ran eraill, heb ystyried y gost.
Paul Joyner
