
Llyfrgell Genedlaethol Cymru
‘Rwyf wedi bod yn hynod o freintiedig dros y blynyddoedd i fod wedi cyfarfod â phobl o wahanol rhanbarthau o’r byd tra yn cynnig teithiau tywys o gwmpas y Llyfrgell Genedlaethol yma yn Aberystwyth.
Maen’t wedi dangos diddordeb i dderbyn gwybodaeth ychwanegol a deallusrwydd am yr iaith Gymraeg ac hefyd am ein diwylliant unigryw.
Blwyddyn diwethaf tra yn tywys grwp o fyfyrwyr o Dde Korea ‘roeddwn yn methu credu wrth weld a phrofi eu brwydfrydedd tra ‘roeddwn yn disgrifio gwahanol eitemau oedd ar arddangos yn ardal Ystafell Hengwrt.
Gallaf gymharu’r sefyllfa i fel byddai plant yn ymateb tra yn ymweld â siop losin am y tro cyntaf erioed!
Os am ymweld ag un o lyfrgelloedd mawr y byd yna bydd croeso i chwi ar fore Dydd Llun am 11.00 y.b. ac hefyd pnawn Dydd Mercher am 2.15 y.p.
Bydd hyn yn galluogi cael ymweliad i un o’r ystafelloedd gyda esiampl hyfryd ac unigryw o bensaerniaeth yn y dull celfyddydol ‘Art and Craft’ ac hefyd sylwi ar gypyrddau llyfrau wedi ei gwneud o dderw o Awstria.
I gloriannu’r ymweliad bydd modd ymweld ag un o orielau godidocaf Cymru sefOriel Gregynog i fwynhau a phrofi yr arddangosfa gyfredol sef:
‘Dot Dot Dash’ Cyfathrebu yng Nghymru
Mae’r arddangosfa yn canolbywntio ar gasgliadau Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru ac yn arddangos clipiau gweledol a chlywedol eiconig o bob degawd o’r ganrif ddiwethaf. Ceir cipolwg ar rai o’r cerrig milltir hynny yn hanes cyfathrebu yng Nghymru sydd wedi newid y ffordd ry’n ni’n byw heddiw.
Drwy ddangos gwrthrychau wedi eu benthyg gan y Museum of Communication yn Fife, bydd yr arddangosfa yn eich tywys ar daith drwy amser gyda setiau radio a theledu cynnar, clipiau ffilmiau cartref a chlipiau sain o ddarllediadau radio cynnar yng Nghymru.
Delweddau o’r arddangosfa i’w gweld ar Facebook
Dilynwch ni ar Twitter – @dotdot_dash
Mynediad am ddim felly dim esgus i beidio ag ymweld â’r Llyfrgell Genedlaethol sydd yn meddu ag un o’r golygfeydd godidocaf yn yr holl fyd!
Mae'r cofnod hwn hefyd ar gael yn: English
