Yn ddiweddar bu i ni newid rhai o’r eitemau yn ein harddangosfa ar gyfathrebu ‘Dot Dot Dash’, felly mae’n werth dod yn ôl i gymryd golwg arni eto!
Ymhlith yr eitemau o ddiddordeb mae’r Beibl Cymraeg cyfan mewn braille. Yn ei gyfanrwydd, mae’r Beibl yma yn mesur 3 metr o hyd; mae’n anodd credu fod un llyfr yn medru cael ei gyfieithu i gymaint o gyfrolau!
Mae braille yn gôd sy’n seiliedig ar 6 smotyn, wedi’u trefnu yn ddwy golofn o dri smotyn yr un. Dim ond 63 cyfuniad unigryw sy’n gallu cael eu creu gyda 6 smotyn cell braille, a dyna pam y datblygwyd codau arbenigol i gynrychioli llythrennau print, megis nodiant cyfrifiadurol a gwyddonol, a ieithoedd fel y Gymraeg.
Cynhyrchwyd y llyfr Braille Cymraeg cyntaf yn yr 1900au. Er hyn, mae’r côd braille Cymraeg sydd yn cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd yn ddyfais gweddol ddiweddar, un a gafodd ei chyhoeddi’n swyddogol am y tro cyntaf yn 1996. Mae’n defnyddio’r un rheolau cyffredinol â rheolau braille Prydeinig, ond mae’r wyddor Gymraeg yn cynnwys symbolau ar gyfer cyfuniadau cyffredin o lythrennau, megis ll, dd, ff, rh. Mae’r fersiwn gryno o’r côd braille Cymraeg yn cynnwys symbolau ar gyfer geiriau mwy cyffredin y Gymraeg, a grwpiau llythrennau megis ‘a’, ‘beth’ a ‘cael’.
Mae'r cofnod hwn hefyd ar gael yn: English

