Darganfod Caer yr Oesoedd Canol

Ym mis Mai, benthycodd y Llyfrgell nifer o lawysgrifau canoloesol pwysig ar gyfer arddangosfa yn Amgueddfa Grosvenor, Caer.

Mae’r arddangosfa, ‘Darganfod Caer yr Oesoedd Canol’, yn rhan o brosiect ehangach sydd wedi’i ariannu gan yr AHRC, gyda’r bwriad ‘i hybu treftadaeth ddiwylliannol fywiog Caer yr Oesoedd Canol fel dinas amlddiwylliannol, amlieithog, gan ddod â deunydd a diwylliant testunol a gweledol at ei gilydd, a ffurfio cysylltiad rhwng y gorffennol canoloesol ac amgylchedd modern, dinesig heddiw.’  Edrycha’r arddangosfa ar fywyd mewn dinas ganoloesol trwy eitemau personol bywyd bob dydd, ochr yn ochr â chasgliad godidog o ddogfennau sy’n darlunio Caer, ei hymwelwyr, a’i dinasyddion.  Ymhlith yr eitemau a fenthycwyd gan y Llyfrgell mae ‘The Antichrist’, llawysgrif o’r 15fed ganrif o lên-gylch Caer o ddramâu miragl.  Bydd modd i chi hefyd weld cerddi’r Cymry, sydd yn edrych ar ddynion Caer â’u cwrw gwan.

Lewys Glyn Cothi, ‘Satire on the Men of Chester’

Lewys Glyn Cothi, ‘Satire on the Men of Chester’

Bydd yr arddangosfa ar agor tan yr 22ain o Fedi, ac wedi hynny, bydd yn teithio i Amgueddfa Wrecsam.

Mae'r cofnod hwn hefyd ar gael yn: English

Cyhoeddwyd y cofnod hwn yn Heb ei gategoreiddio. Nodwch y ddolen barhaol.

Leave a Reply

You may use these HTML tags and attributes: <a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>