• Mae 6 miliwn o lyfrau yn ein casgliad
• Rydym yn un o bump o Lyfrgelloedd Hawlfraint Ym Mhrydain. Golygir hyn bod gennym yr hawl i dderbyn copi o bob cyhoeddiad, print ac electronig yn rhad ac am ddim.
• Os byddech chi yn rhoi holl silffoedd y Llyfrgell mewn rhes byddai’n yn ymestyn am 118 o filltiroedd
• Mae 320 o staff yn gweithio yn y Llyfrgell 46 ohonynt â’r cyfenw Jones!
• Mae 1.5 miliwn map yn ein casgliad
• Syr John Williams oedd Llywydd Cyntaf y Llyfrgell
• Mae’r Llyfr Lleiaf yn y casgliad yn mesur 1mm x 1mm ac yn cynnwys rhigwm ‘Humpty Dumpty’
• Cafodd un o’r eitemau ein casgliad sef Llawysgrif Hendregadredd ei ddarganfod mewn cwpwrdd dillad mewn ystafell wely ger Porthmadog.
• Mae dros 7,000,000 troedfedd o ffilm yng Nghasgliad Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru.
Mae'r cofnod hwn hefyd ar gael yn: English
