Tybed os yw swyddogion eich cymdeithas neu mudiad eisoes wedi trefnu eich rhaglen ar gyfer tymor y Gaeaf?
Tybed os ydynt wedi ystyreid ymweld â’r Llyfrgell, fel bydd Cymdeithas Llês Tanygroes, Aberteifi yn ei wneud dyddd Sadwrn nesaf?
Mae mwy a mwy o gymdeithasau a mudiadau yn manteisio ar y cyfle i ddod i’r Llyfrgell, ac yn mwynhau gweld rhai o’n trysorau cenedlaethol, arddangosfeydd ac orielau ac i ddysgu mwy am ein diwylliant fel cenedl.
Mae’r teithiau, sy’n rhâd ac am ddim, yn cynnwys cael eich tywys o gwmpas rhai o ardaloedd cudd yr adeilad gan aelod o staff, gan ddysgu mwy am ein casgliadau ac i ryfeddu at bensaerniaeth
urddasol un o adeiladau mwyaf eiconic Cymru.
Cyfle hefyd i chi fwynhau pryd o fwyd neu paned o dê yn Café Pen Dinas – heb anghofio ymweld â’r Siop cyn gadael.
Cynhelir teithiau tywys wythnosol pob dydd Llun am 11.00am a phrynhawn dydd Mercher am 2.15pm. Er mwyn sicrhau eich lle, mae angen archebu tocyn o flaen llaw trwy gysylltu gyda Siop y Llyfrgell (01970) 632 548 neu arlein www.llgc.org.uk/drwm
I rhai ohonnoch sy’n awyddus ddod fel cymdeithas, grŵp neu fudiad, rhaid archebu o flaen llaw – ceir manylion llawn ar wefan y Llyfrgell.
Mae'r cofnod hwn hefyd ar gael yn: English
