Yn y ras i ddal i fyny gyda holl ddatblygiadau’r oes ddigidol – yr un peth sy’n aml yn cael ei anghofio yw cadwedigaeth ddigidol. Dyma gyfres o ddigywddiadau i sicrhau bod data digidol ar gael nawr ac yn y dyfodol.
Mae’r Llyfrgell Genedlaethol wedi bod yn gweithio yn y maes hwn ers blynyddoedd. Mewn Oes Wybodaeth mae prif sefydliad gwybodaeth Cymru ar flaen y gad ac yn awyddus i ddatblygu ymhellach. Ei nod yw datblygu’n Ganolfan Gadwraeth a Chanolfan Ddigidol i Dreftadaeth Ddiwylliannol Cymru.
Gwahoddir chi’n gynnes i ymuno mewn digwyddiad wedi ei drefnu gan Llyfrgell Genedlaethol Cymru i rannu gwybodaeth, profiad ac arbenigedd yn yr Atriwm Prifysgol Morgannwg .
Bydd cyflwyniadau gan arbenigwyr y Llyfrgell sef Sally McInnes, Pennaeth Gwasanaethau Casgliadau a Michael Pearson, Archifydd Mab Lab y Llyfrgell ynghyd â nifer o sefydliadau cenedlaethol eraill a bydd cyfle i drafod y ffordd ymlaen.
Atriwm, Prifysgol Morgannwg, Caerdydd, 10.00 – 2:30, 19 Gorffennaf 2013
RSVP
http://cadwraethconservation.eventbrite.co.uk/#
Gwybodaeth Pellach
Sian Henson
01970 632 545
sian.henson@llgc.org.uk
Mae'r cofnod hwn hefyd ar gael yn: English
