Sioe Frenhinol Cymru yw’r sioe amaethyddol fwyaf yn Ewrop. Trefnir gan Gymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru, a ffurfiwyd yn 1904, ac fe’i cynhelir ym mis Gorffennaf bob blwyddyn, yn Llanelwedd, ger Llanfair-ym-Muallt, ym Mhowys, Canolbarth Cymru.
Roedd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn 1904, ac arweiniodd ei llwyddiant at ddatblygu maes sioe parhaol yn Llanelwedd, a ddefnyddiwyd gyntaf yn 1963.
Mae’r sioe yn para am bedwar diwrnod ac yn denu mwy na 200,000 o ymwelwyr bob blwyddyn, gan ei wneud yn hwb mawr i dwristiaeth yng Nghymru.
Rhai o ddigwyddiadau gellwch eu fwynhau:
Beirniadu g wartheg, defaid, ceffylau, geifr, moch a nifer o anifeiliaid eraill megis ieir a chwningod.
- Treialon cŵn defaid
- Cystadlaethau cneifio defaid
- Cystadleuthau marchogaeth
- Gyrru cerbyd a cheffylau yn gystadleuol
- Hebogyddiaeth
- Celf a chrefft
- Cerddoriaeth fyw
Mae’r sioe yn arbennig o arwyddocaol i bobl ifanc sy’n byw mewn cymunedau ffermio yng Nghymru. Mae’n cael ei ystyried yn un o uchafbwyntiau’r flwyddyn ac yn gyfle i gymdeithasu â hen ffrindiau a dod i adnabod rhai newydd.
Mae Ffederasiwn Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru yn rhedeg cyfres o gystadlaethau ledled Cymru drwy gydol y flwyddyn gyda rowndiau terfynol y cystadlaethau ymarferol fel arfer yn digwydd yn y Sioe. Ymhlith y digwyddiadau hyn ceir cystadleuthau barnu stoc, tynnu rhaff, dosbarthiadau coginio, gosod blodau, gweithgareddau celf ac hefyd dawnsio disgo.
Gellir dadlau mai’r digwyddiad mwyaf yn y sioe yw’r dosbarth meirch y Cobiau Cymreig a gynhelir yn draddodiadol ar brynhawn dydd Mercher y sioe. Cynhelir y dosbarth gan ddefnyddio’r brif arena gyfan. Fel arfer bydd yr eisteddle, y bryn gyferbyn a’r cyffiniau yn llawn o fobl.
Mae’r digwyddiad hwn yn un unigryw ac yn denu gwylwyr o bob cwr o’r byd.
Fel arfer bydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn bresennol trwy gydol y pedwar diwrnod, a chanolbwyntir y flwyddyn hon ar bapurau newydd Cymreig ar-lein.
Bydd yna hefyd arddangosfa yn tynnu sylw at linach llywydd cyfredol y sioe sef
Mr Wyn T. Jones FRAgS o Ynys Môn ac hefyd gweithgareddau ar gyfer yr ymwelwyr iau yn cynnwys creu coeden deuluol a chyfle i dynnu llun o’r teulu.
Gellwch ymweld â ni ar ein stondin a leolir tu nôl i’r prif eisteddle y cylch mawr lle byddwch yn sicr o dderbyn croeso cynnes.
Mae'r cofnod hwn hefyd ar gael yn: English
