Who Do You Think You Are? Live, 22-24 Chwefror 2013, Olympia, Llundain
Eleni eto roedd presenoldeb Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn sioe fwyaf o’i bath yn hanfodol i hyrwyddo’r sefydliad i’r byd hanes teulu. Aelodau’r Tîm eleni oedd Beryl Evans, Rheolwr Gwasanaethau Ymchwil, Cyril Evans, Swyddog Hyrwyddo a Mark Strong, Cynorthwy-ydd Ymholiadau.
Rhoddwyd cyflwyniad gan Beryl ar ‘Welsh Newspapers Online’, roedd y theatr yn llawn gan greu tipyn o gyffro am yr adnodd newydd, llawer methu credu ein bod yn cynnig y gwasanaeth yn rhad ac am ddim! Cyfeiriadau di-ri wedi ymddangos ar Facebook, Twitter a blogiau wedi’r sioe.
Ar y dydd Sadwrn roedd Cyril wedi gwahodd Huw Stephens o BBC Radio 1 i ymweld â ni, bu Huw a’i wraig Sara yn ein cwmni am dipyn. Roedd gan y ddau ohonynt ddiddordeb yn hel achau ac hefyd yn yr hyn sy gan y Llyfrgell i’w gynnig yn gyffredinol.
Mae'r cofnod hwn hefyd ar gael yn: English
