Adnau Cyfreithiol Electronig

Adnau Cyfreithiol Electronig

O’r 6ed. Ebrill, 2013, mae gan y Llyfrgell hawl i gasglu deunydd sydd wedi ei gyhoeddi’n ddigidol ac arlein. Mae hyn yn ogystal a’r deunydd printiedig mae’n ei gasglu’n barod.

Bydd hyn yn ein galluogi i gasglu, storio a chadw cof y genedl yn yr oes ddigidol. Bydd y cynnwys yn cwmpasi erthyglau a llyfrau arlein a gwefannau.

Mae amrywiaeth o ddeunydd ar gael, ond mi fydd yn cymeryd cryn amser i’w gasglu a’i brosesu, ac nid yw popeth ar gael ar hyn o bryd. Mae mynediad i’r deunydd yma ar gael yn ystafelloedd darllen y Llyfrgell. Medrwch gael mwy o wybodaeth gan staff yr Isadran Gwasanaethau i Ddarllenwyr. Dewch draw i weld beth sydd ar gael.

Mae'r cofnod hwn hefyd ar gael yn: English

Cyhoeddwyd y cofnod hwn yn Heb ei gategoreiddio. Nodwch y ddolen barhaol.

Leave a Reply

You may use these HTML tags and attributes: <a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>