Sioe Amaethyddol Llanewledd 2013

Tybed os fyddwch chi ymhlith y miloedd fydd yn tyrru i’r Sioe Frenhinol eleni?

Os felly, beth am ‘alw i mewn i stondin y Llyfrgell Genedlaethol i gymryd mantais o beth sydd gennym i’w gynnig – ac wrth gwrs, y cyfan yn rhad ac am ddim!

Mi fyddwn yn canolbwyntio ar ‘y Llyfrgell o bell’ – sut mae manteisio ar adnoddau’r Llyfrgell dros y wê, sy’n cynnwys ein adnodd diweddaraf ‘Papurau Newydd Cymru Arlein.’ Ydych chi erioed wedi ystyried olrhain eich hanes eich teulu, neu ceisio darganfod hanes eich tŷ, tyddyn neu fferm? Fe fydd arbennigwyr y Llyfrgell wrth law i’ch cynghori a’ch cynorthwyo gydol yr wythnos.

Gan mae Ynys Môn yw prif noddwyr y Sioe eleni, bydd rhan o’n arddangosfa yn canolbwyntio ar hanes teulu Llywydd 2013, Wyn Jones,  Castellior, Porthaethwy.

Mae’r Llyfrgell wedi’i leoli ar stondin E360, yn union tu ôl i’r brif eisteddle, fe’ch gwelaf chi yno!

Mae'r cofnod hwn hefyd ar gael yn: English

Cyhoeddwyd y cofnod hwn yn Heb Gategori. Nodwch y ddolen barhaol.

Leave a Reply

You may use these HTML tags and attributes: <a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>