Cadeirio’r Bardd yw un o’r digwyddiadau mwyaf pwysig yn y traddodiad eisteddfodol yma yng Nghymru. Mae’r seremoni gadeirio enwocaf yn digwydd yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru,a chynhelir hon bob amser ar y prynhawn Gwener yn ystod wythnos yr Eisteddfod. Cyfeirir at yr enillydd fel Y Prifardd
Cynllunir cadair farddol newydd ar gyfer pob eisteddfod ac fe’i dyfernir i’r ymgeisydd buddugol yn y gystadleuaeth ar gyfer yr Awdl sef barddoniaeth wedi ei hysgrifennu ar ffurf mesurau caeth a adwaenir fel cynghanedd.
Mae’r seremoni Eisteddfod Genedlaethol yn cael ei llywyddu gan yr Archdderwydd, sy’n darllen sylwadau’r beirniaid ‘cyn cyhoeddi hunaniaeth y bardd, gan ddefnyddio dim ond y ffugenw mae’r enillydd wedi ei ddefnyddio i gyflwyno’r gwaith.
Hyd at y pwynt hwn, nid oes unrhyw un yn gwybod gwir hunaniaeth y bardd, a gofynnir
iddo / iddi sefyll ac yna cael ei hebrwng i’r prif lwyfan. Gwahoddir plant lleol i berfformio y ddawns i anrhydeddu’r bardd llwyddiannus.
Ennill y “dwbl” o gadair farddol a choron yn yr un eisteddfod yn gamp sydd ond wedi perfformio llond llaw o weithiau yn hanes yr eisteddfod. Alan Llwyd a Donald Evans ill dau wedi cyflawni y ddwbl ddwywaith.
Gellir gweld cadair eisteddfodol arbennig iawn yma yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth sef cadair eisteddfodol Maori Caernarfon 1935
Enillwyd y gadair gan y Diweddar Barchedig E Gwyndaf Evans (1913-1986) yn Eisteddfod Genedlaethol Caernarfon 1935, am ei awdl ‘Magdalen’.

Cadair Maori
Gwyndaf oedd y cystadleuydd ieuengaf i ennill yr anrhydedd honno a’r awdl gyntaf mewn gwers rydd gynganeddol i gipio prif wobr farddonol yr Eisteddfod Genedlaethol.
Mae i’r gadair hanes arbennig o ddiddorol. Cafodd ei chynllunio a’i cherfio yn Seland Newydd gan ddefnyddio symbolau traddodiadol y Maori. Fe’i cyflwynwyd yn wobr gan Gymry Seland Newydd er anrhydedd i’r Fonesig Bledisloe (Alina Kate Elaine Cooper-Smith née Jenkins), gwraig Llywodraethwr Cyffredinol y wlad a’r Gymraes gyntaf i weithio yn y gwasanaeth diplomyddol yno, rhwng 1930 a 1935.
Cerfiwyd y gadair gan grefftwyr Maori o bren y goeden Tatara gyda llygaid addurniadol o gragen y Paua a phlac o pounamu.
Dymuniad Gwyndaf oedd i’r gadair hon a phaentiad ohono yng ngwisg Archdderwydd Cymru gael eu cadw yn y Llyfrgell Genedlaethol a throsglwyddwyd yr eitemau i Aberystwyth yn dilyn marwolaeth Mrs Evans, ei weddw, gan eu
plant.
Bydd gan y Llyfrgell Genedlaethol bresenoldeb trwy’r wythnos yn yr Eisteddfod lle byddwn yn hyrwyddo defnyddio ein ffynnonellau o bell.
Trwy wneud hyn medrwn gyflwyno Papurau Newydd Cymru Ar-lein yn adnodd a fydd yn galluogi unrhyw un sy’n ymddiddori yn hanes a phobl Cymru i bori a chwilio 100 a mwy o deitlau o’i chasgliad cyfoethog o bapurau newydd cyn 1910 – a hynny yn rhad ac am ddim. Y cynllun hwn yw’r prosiect digido mwyaf i’r Llyfrgell i ymgymryd ag ef.
Mae prosiect Papurau Newydd Cymru Ar-lein yn cyfrannu at weledigaeth bellgyrhaeddol y Llyfrgell i fod y genedl gyntaf i ddigido’r cyfan o’i chynnyrch print cyhoeddedig a’i rannu yn rhad ac am ddim ar y we.
Eleni, bydd stondin newydd i’w weld ar faes yr Eisteddfod, sef Copi. Bydd Copi yn cynnig cyfle i eisteddfodwyr brynu copi DVD o gystadlaethau, seremonïau a chyngherddau’r Eisteddfod. Mae’r gwasanaeth yma’n cael ei gynnig gan Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru, gyda chydweithrediad Eisteddfod Genedlaethol Cymru a BBC Cymru.
Yn ddiweddar, daeth Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru, sydd wedi’i lleoli yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, yn gartref i’r casgliad cyflawn hwn o weithgareddau’r Eisteddfod – casgliad sy’n dyddio’n ôl i Eisteddfod Genedlaethol Môn 1999. Nid yn unig y bydd modd prynu copiau o’r Eisteddfod eleni, ond bydd hefyd opsiwn i brynu copiau o eitemau o unrhyw Eisteddfod ers 1999. Bydd modd cysylltu â’r Archif Sgrin a Sain wedi wythnos yr Eisteddfod hefyd i archebu.
Bydd hefyd croeso i chwi alw heibio i’r siop ar stondin y Llyfrgell yn ystod yr wythnos. Gellwch fwynhau gweld cynnyrch newydd sydd wedi ei greu yn arbennig o gasgliadau’r Llyfrgell,Crochenwaith Ewenni, cardiau cyfarch a chardiau Nadolig.
Gellir prynu 2 brint unigryw a grewyd yn arbennig i’r Llyfrgell sef:

‘Trwy ddulliau chwyldro yn unig mae llwyddo’
1. ‘Trwy ddulliau chwyldro yn unig y mae llwyddo’ - dyfyniad Saunders Lewis o’i ddarlith ‘Tynged yr Iaith’ 1962. Mae hyn i gyd-fynd gyda’n harddangosfa gyfredol Dot Dot Dash: Cyfathrebu yng Nghymru.
2. Creuwyd hefyd print yn arbennig o farddoniaeth John Ceiriog Hughes (Ceiriog) 1832-1887 sef ‘Nant y Mynydd gan yr artist Lizzie Spikes.
I gyd-fynd ag arddangosfa tymor yr Hydref sef Pedwar llawysgrif canoloesol pwysicaf Cymru comisiynwyd print yn arbennig i’r Llyfrgell sef ‘Pais Dinogad’ gan Valeriane Leblond. Hwiangerdd anarferol a chynnar yw hon a welir yn Llawysgrif Aneurin lle mae mam yn sôn wrth ei mab am fedrusrwydd ei dad fel heliwr a rhyfelwr.

Pais Dinogad
Edrychwn ymlaen yn fawr i’ch croesawu i stondin y Llyfrgell ar faes yr Eisteddfod yn ystod yr wythnos
Os na fedrwch ymweld â’r Eisteddfod yn Ninbych yna gellwch hefyd bori ar lein: www.llgc.org.uk/siop
Mae'r cofnod hwn hefyd ar gael yn: English
