Darllen yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Un o fanteision o ddod yn ddarllenydd yn  Ystafell Ddarllen y Gogledd Llyfrgell Genedlaethol Cymru yw medru archebu amryw o nofelau ar gyfer darllen personol yn  Ystafell Ddarllen y Gogledd.

Mae’r Ystafell  wedi ei adnewyddu tua phedair mlynedd yn ôl a bellach mae’n cynnig y cyfleusterau canlyno sef:

Mynediad am ddim i rwydwaith di-wifr (wi-fi) y Llyfrgell.

Ystafelloedd astudio ar gyfer gweithio mewn grŵp neu’n unigol.

Lolfa ddarllen gysyrus.

Gofod ychwanegol ar gyfer defnyddio gliniaduron personol.

Y ddarpariaeth ddiweddaraf ar gyfer yr anabl.

Gwell darpariaeth o wres a golau.

Gwnaeth cydweithwraig a gyfarfum yn un o’r coridorau hirfaith tu nôl i’r llenni awgrymu dylwn ddarllen

 ’A Street Cat Named Bob.

Mae’r llyfr yn dechrau trwy sôn fod pob un ohonom yn cael yr ail siawns yn ddyddiol ond ein bod yn anffodus yn methu eu gweld na chymryd mantais o’r cyfle.

‘Roedd hyn yn hollol wir o fywyd James Bowen i fyny hyd at wanwyn 2007 pan ddarganfiodd cath strae yng nghyntedd ei gartref yn Tottenham.

Doedd ganddo yr un syniad byddai ei fywyd yn newid am byth am ei fod yn ddigartref ac yn byw bywyd anodd a chaled ar strydoedd dinas Llundain.

Mae Street Cat Named Bob yn stori sy’n dyrchafu’r enaid gyda daioni yn gorfoleddu tros drallod.

Felly dewch draw i Lyfrgell Genedlaethol Cymru a mwynhewch ddarllen deunydd print ag electronig yn awyrgylch hyfryd Ystafell Ddarllen y Gogledd.

 

Mae'r cofnod hwn hefyd ar gael yn: English

Cyhoeddwyd y cofnod hwn yn Heb Gategori. Nodwch y ddolen barhaol.

Leave a Reply

You may use these HTML tags and attributes: <a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>