Bob mis fyddai’n cyflwyno chi i 1 o’r 300 o staff sy’n gweithio yma’n y Llyfrgell. Pob un ohonynt yn hanfodol i waith y Llyfrgell, felly dyma chi, Rhiannon….
Enw: Rhiannon Michaelson-Yeates
Swydd: Archifydd Derbyn
Beth yw eich brif ddyletswyddau: Derbyn eitemau di-brint sy’n dod i’r Llyfrgell, boed rheiny’n Roddion, Adneuon neu Bwrcasiadau, sef Archifau, Llawysgrifau, Darluniau a Gweithiau Celf, Ffotograffau, Sleidiau a Negyddion ayyb – popeth a dweud y gwir, ar wahân i ddeunyddiau print.
Beth yw’r peth gorau am eich swydd: Cael trin a thrafod yr amrywiaeth o eitemau newydd sydd i’w hychwanegu at gasgliadau’r Llyfrgell, gan amlaf cyn i fawr neb arall eu gweld na’u cyffwrdd, a bod yn rhan o’r broses o brynu eitemau a chasgliadau pwysig a drudfawr, prin ac unigryw, ac felly sicrhau eu diogelwch ar gyfer y dyfodol.
Oes ganddoch stori ddiddorol: Teithio i Lundain yn fan fawr y Llyfrgell i gasglu llawysgrif ‘Boston’ sef llawysgrif Cyfreithiau Hywel Dda, sydd yn rhyw chwe modfedd o hyd a phedair o led – ond bod yn ymwybodol o gasglu eitem mor fach ond un mor ddrudfawr ac yn crynnu’r holl ffordd adra!
Beth yw eich hoff eitem o fewn y casgliad: Mmm – hwn yn anodd! Wel, gallaf ddweud fy mod yn hoff o bortreadau Joe Calzaghe, Katherine Jenkins, Ryan Giggs, Ruth Jones a Shane Williams, yn hoff iawn o lawysgrifau Dylan Thomas, Lloyd George a Ray Howard-Jones, hoff o ffotograffau Richard Burton, Anthony Hopkins,Tom Jones a Catherine Zeta Jones, llawysgrifau cain megis Brut y Brenhinedd a’r Seryddiaeth Gynnar – ond am un eitem Unigol……dim un arbennig!
Mae'r cofnod hwn hefyd ar gael yn: English
