Pan glywch glep y blwch postio ar eich drws ffrynt a thaflen frown o Lyfrgell Genedlaethol Cymru yn cyrraedd ar y mat o fewn yr wythnosau nesaf, yn hytrach na’i chyfyngu i’r bin ailgylchu annogaf i chwi gymryd ychydig o amser i ddarllen am yr arddangosfeydd cyffrous ac amrywiol a gynhelir yn un o brif leoliadau arddangos yng Nghymru.
28 Medi 2013 – 10 Mai 2014 Lloyd George 
David Lloyd George oedd Prif Weinidog Prydain pan oedd y Rhyfel Mawr yn ei anterth.
Yn yr arddangosfa hon cewch weld cymysgedd ddifyr o newyddion o’r byd gwleidyddol wedi’u plethu’n gelfydd â chlecs presonnol a theuluol.
12 Hydref 2013 – 15 Mawrth 2014
Eiconau Cymraeg Ynghyd
Am y tro cyntaf erioed byddwn yn dod â llawysgrifau llenyddol pwysicaf Cymru ynghyd sef:
Llyfr Du Caerfyrddin, Llyfr Taliesin, Llyfr Aneurin a Llyfr Coch Hergest o Goleg yr Iesu, Rhydychen.
19 Hydref 2013 – 10 Mai 2014 Tirlun Cymru 
Arddangosfa graddfa fawr o baentiadau a darluniau gwych o gasgliadau’r Llyfrgell, yn dangos ymateb gwahanol arlunwyr i dirwedd Cymru drwy’r oesoedd.
Mae holl arddangosfeydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru am ddim ac mae croeso cynnes i deuluoedd.
I ychwanegu at eich ymweliad beth am ymweld â’n siop a chaffi a mwynhau golygfeydd arbennig Bae Ceredigion.
Bydd y croeso yn wastad yn un gynnes.
Mae'r cofnod hwn hefyd ar gael yn: English
