Mae Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru yn diogelu a dathlu ein hetifeddiaeth sain a delweddau symudol. 
Daw’r Archif â stori Cymru a’r Cymry yn fyw o flaen eich llygaid. Mae’n stori ryfeddol a chaiff ei adrodd gan filoedd o leisiau a delweddau symudol a recordiwyd ers 1898.
Fel rhan o ddigwyddiad Drysau Agored Treftadaeth Ewropeaidd, cynnigir teithiau tywys arbennig tu nôl i lenni’r Archif ar Ddydd Iau 26 Medi
am 10.00 y.b. a hefyd am 2.15 y.p.
Dyma gyfle euraidd i weld y storfeydd a rhyfeddu at y gwaith a wneir i ddiogelu’r casgliad unigryw hyn.
Mynediad am ddim trwy docyn (01970) 632 548 neu www.llgc.org.uk/drwm
Mae’r niferoedd yn gyfyngedig ac hefyd yn anaddas i’r anabl.
Ffeithiau ddiddorol i’ch syfyrdani am gynnwys y casgliad!
150,000 awr o recordiau sain
250,000 awr o ddelweddau symudol 
7,000,000 troedfedd o ffilm
200,000 o eitemau yn archif ITV Cymru 
