Yn ôl i Hendy-gwyn: Cyfraith Hywel ar daith

Yn dilyn creu ffacsimilïau o Lawysgrif Boston o Gyfreithiau Hywel Dda yn ddiweddar, mae gennym gyfle gwych i gyflwyno un o’n trysorau newydd i gynulleidfaoedd ehangach.

Cewch gyfle i weld y llawysgrif wreiddiol, sy’n dyddio o ganol y bedwaredd ganrif ar ddeg, yn ein harddangosfa yma yn y Llyfrgell fis Hydref. Ond er mwyn cael rhagflas, bydd yn rhaid un ai edrych arni ar-lein, neu bererindota i Hendy-gwyn ar Daf i weld copi. Pam i Hendy-gwyn? Wel, yno, yn ôl traddodiad, y bu cynulliad o ddysgedigion dan gadeiryddiaeth Hywel Dda yn y ddegfed ganrif yn rhoi trefn ar gyfreithiau Cymru.

Canolfan Hywel Dda Cyntaf1Canolfan Hywel Dda Ail2Ddiwedd Awst, bu staff y Llyfrgell yn ymweld â Chanolfan Hywel Dda yn Hendy-gwyn er mwyn dangos copi o Lawysgrif Boston i wirfoddolwyr ac ymwelwyr lleol, ac i adrodd ychydig o’i hanes. Aethpwyd ati wedyn i osod y copi mewn blwch arddangos, lle bydd i’w weld gan y cyhoedd am y tair blynedd sydd i ddod. Dyma allu dweud o’r diwedd fod Cyfraith Hywel wedi dychwel i fan ei geni!

Ond nid dyna ddiwedd y stori. Ar Fedi 28, bydd y gymuned academaidd yn ymweld â’r Ganolfan yn Hendy-gwyn i gynnal eu cyfarfod hanner blwyddyn. Yn Seminar Cyfraith Hywel, bydd cyfle i bawb (‘cyffredin ac ysgolhaig’) wrando ar yr arbenigwyr Paul Russell a Morfydd Owen yn rhoi’r llawysgrif dan chwyddwydr (yn llythrennol ac fel arall!).

Gan mai Morfydd oedd un o’r ychydig rai a welodd y llawysgrif yn ninas Boston, ac mai Paul sydd wedi dilyn ei hynt o Sotheby’s y llynedd, bydd eu cyflwyniad yn uchafbwynt i ddiwrnod arbennig iawn.

Am ragor o fanylion am y digwyddiad, ac i archebu lle yno, cysyllter â Prof. Paul Russell, Dept of ASNC, 9 West Road, Cambridge, CB3 9DP, cyn dydd Gwener, 20 Medi.

Maredudd ap Huw

Cyhoeddwyd y cofnod hwn yn Casgliadau. Nodwch y ddolen barhaol.

Leave a Reply

You may use these HTML tags and attributes: <a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>