#oriel

Mae tîm arddangosfeydd a thîm casgliadau’r Llyfrgell yn prysur baratoi ar gyfer arddangosfeydd tymor yr Hydref.
Uchafbwynt y tymor fydd arddangosfa’r 4 Llyfr: Eiconau Cymraeg Ynghyd.
Am y tro cyntaf erioed, byddwn yn dod â llawysgrifau llenyddol pwysicaf Cymru ynghyd.
Bydd y cyfle cyntaf erioed i weld y bedair llawysgrif enwog a ddyrchafwyd i statws eiconig yn Four Ancient Books of Wales (Skene) gyda’u gilydd:
•    Llyfr Du Caerfyrddin
•    Llyfr Taliesin
•    Llyfr Aneirin
•    Llyfr Coch Hergest

A bydd cyfle hefyd i weld trysorau eraill y Gymraeg, megis:
•    dwy ran Llyfr Gwyn Rhydderch (c. 1350), yn cael eu dangos ochr-yn-ochr am y tro cyntaf
•    Llawysgrif Hendregadredd (c. 1300), a ganfuwyd mewn cwpwrdd dillad, ac sy’n cynnwys llawysgrifen Dafydd ap Gwilym

The Boston Manuscript

Llawysgrif Boston

•    Llawysgrif Boston o Gyfraith Hywel Dda (c. 1350-1400), yr ychwanegiad diweddaraf at drysorau’r genedl

Dyma ail ymweliad Llyfr Coch Hergest o Goleg Iesu Rhydychen, â Chymru ers iddo fynd yn alltud yno yn 1701 (yr ymweliad cyntaf oedd yr un â’r Llyfrgell Genedlaethol yn 1982).
Beth am i chi drefnu ymweliad â’r Llyfrgell Genedlaethol i weld y llawysgrifau hyn ynghyd â chael taith gyffredinol o’r Llyfrgell fydd yn rhoi cyflwyniad i chi ar hanes y Llyfrgell – yr adeilad a’i chasgliadau.
www.llgc.org.uk neu post@llgc.org.uk

Mae'r cofnod hwn hefyd ar gael yn: English

Cyhoeddwyd y cofnod hwn yn Heb ei gategoreiddio. Nodwch y ddolen barhaol.

Leave a Reply

You may use these HTML tags and attributes: <a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>