Rydym ni’r tîm arddangosfeydd yn brysur yn paratoi ar gyfer agoriad yr arddangosfa gyntaf sy’n rhan o’r tymor o arddangosfeydd sydd gennym ar eich cyfer.
Bydd Lloyd George: Y Dewin, yr Afr a’r Dyn Enillodd y Rhyfel yn agor ddydd Sadwrn 28 Medi, ac yn olrhain bywyd a gyrfa’r Cymro o wleidydd nodedig hwn, gan gynnig cip i’w fywyd gwleidyddol a phersonol.
Yn rhan o’r arddangosfa, bydd cyfle i weld ei ddyddiaduron a’i lythyrau, ynghyd â detholiad difyr o ddogfennau gwleidyddol ochr yn ochr â chlecs personol a theuluol y cyn-Brif Weinidog. Yn ogystal â dogfennau a llawysgrifau gwreiddiol, bydd nifer o ffotograffau, portread olew ohono, a phenddelw efydd anferth gan Michael Rizello yn rhan o’r arddangosfa.
Rydyn ni hefyd yn gyffro i gyd o gael benthyg nifer o eitemau personol Lloyd George oddi wrth Amgueddfa Lloyd George yn Llanystumdwy, ac yn edrych ymlaen at eu harddangos ochr yn ochr â’n casgliadau ni ein hunain. Gallwch weld ei gês pan yn Brif Weinidog, wales, sbectol Pince nez, a’r bensel olaf a ddefnyddiodd i ysgrifennu ei War Memoirs.
Yn rhan o Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru yma yn y Llyfrgell, ceir nifer o glipiau ffilm o Lloyd George, a bydd y rhain yn cael eu dangos yn yr arddangosfa… efallai’r mwyaf diddorol yw ymweliad Lloyd George â Hitler yn Haf 1936.
Cofiwch alw draw i weld yr arddangosfa – bydd i’w gweld tan 10 Mai 2014.
Mae'r cofnod hwn hefyd ar gael yn: English

