Campweithiau mewn Ysgolion

Yn ystod mis Hydref, bydd y Llyfrgell Genedlaethol yn cymryd rhan yn ymgyrch ‘Campweithiau mewn ysgolion’ cynllun ar y cyd rhwng Sefydliad Catalog Cyhoeddus ar BBC.

Bydd Eich Paentiadau: Campweithiau mewn Ysgolion yn mynd â detholiad o baentiadau enwog gan arlynwyr tebyg i Gainsborough, L. S. Lowry, Monet, Spencer a Turner, sy’n werth amcangyfrif o £14 miliwn, i mewn i 27 o ysgolion ar draws y genedl. Mae hon yn fenter y Sefydliad Catalog Cyhoeddus (PCF), dan arweiniad yr artistiaid cyfoes Prydeinig Bob a Roberta Smith a John Byrne a chaiff ei chefnogi gan BBC Learning.

Mae Eich Paentiadau yn fenter barhaol sy’n  ceisio gwella hwylustod cael at y casgliad celf cenedlaethol. Wedi ei lansio ym Mis Mehefin, 2011, mae’r  safle ar hyn o bryd yn dangos dros 200,000 o baentiadau olew o 3,200 o leoliadau casgliadau ar draws y DU. Dyw tua 80% o baentiadau’r genedl ddim i’w gweld yn unrhyw fan a doedd dim lluniau wedi cael eu tynnu o’r mwyafrif helaeth cyn i’r Sefydliad Catalog Cyhoeddus gychwyn ar y gwaith yn 2003. Mae’r prosiect hwn wedi gwella’n ddramatig hygyrchedd gwaith celf y genedl sy’n eiddo cyhoeddus.

Mae'r cofnod hwn hefyd ar gael yn: English

Cyhoeddwyd y cofnod hwn yn Newyddion a Digwyddiadau. Nodwch y ddolen barhaol.

Leave a Reply

You may use these HTML tags and attributes: <a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>