Dewch i holi

Mae ateb ymholiadau fel rhan o fy swydd yn hynod o ddiddorol, ac yn sicr heb fod yn ddiflas nac yn undonog. Mae’r gwasanaeth ymholiadau a gynigir gan Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn gyfle gwych i’r ymholydd ddarganfod yr atebion i’w cwestiynau, boed yn rhywbeth sydd yn ymwneud â chasgliadau amrywiol y Llyfrgell neu yn gymorth gyda’i hymchwil teulu. Enghraifft dda o hyn yw pan lwyddwyd i ddod o hyd i gofnodion bedydd a phriodasau’r teulu cyfan o fewn un gyfrol o’r adysgrifau’r esgob – ond yn anaml iawn y mae modd ateb ymholiadau mor rhwydd a hynna!

I’r rhai sydd yn bwriadu dod i ddarllen, neu’r rhai na fedrir ymweld â’r Llyfrgell, gallwn gadarnhau ein daliadau, gan ddarparu manylion am gynnwys llawysgrifau ac archifau penodol, yn ogystal â’n casgliad o ddeunydd printiedig, ffotograffau a darluniau. Enghraifft dda o ymholiad a dderbyniwyd yn ddiweddar oedd yr angen i leoli ffermdy yr arferai cyndeidiau’r ymholydd fyw ynddo ganrifoedd yn ôl cyn i’r teulu ymfudo i America. Llwyddwyd i wneud hyn drwy chwilio drwy’r mapiau degwm a’r mapiau Arolwg Ordnans, gan ddarparu’r ateb cyn eu hymweliad â Chymru.

Gyda mathau eraill o ymholiadau a ddaw i’r adran, bydd angen dod o hyd i erthyglau papurau newydd sydd yn drysor o wybodaeth am hanes y cyfnod, boed yn lleol, teuluol neu rywbeth llawer mwy amrywiol, megis storïau am helyntion Merched Beca er enghraifft.

Yr ydym hefyd yn medru darparu copïau o eitemau o gasgliadau’r Llyfrgell, fel gall yr ymholydd wneud fwy o ymchwil trwyadl ei hunain yn dilyn ein harweiniad.

Y mae’n syndod felly, beth a pha wybodaeth sydd yn cuddio y tu ôl i gloriau ac yn eistedd mewn cell yn disgwyl cael eu darganfod. Cewch enghraifft o hynny gennyf yr wythnos nesaf.

Rhianydd Davies, Isadran Gwasanaethau i Ddarllenwyr

Cyhoeddwyd y cofnod hwn yn Heb ei gategoreiddio. Nodwch y ddolen barhaol.

Comments are closed.



Symudwyd y cofnod hwn o'n platfform blogio blaenorol, gellir gweld y fersiwn gwreiddiol ar Archif Gwe y DU.