Heddiw, mae’r Llyfrgell Genedlaethol yn agor eu drysau ar ôl y Nadolig, pawb yn ôl ym mhrysurdeb eu swyddi. Rydym ni yn yr adran hyrwyddo wrthi yn stwffio amlenni yn barod i’w danfon allan i’r rhestr o bobl ar ein rhestr bostio.
Mae’r postiad yn cynnwys rhaglen diweddara o ddigwyddiadau’r Drwm yn ogystal â rhifyn diweddara o’r Dalen. Os hoffech chi fod ar ein rhestr bostio e-bostiwch eich cyfeiriad i post@llgc.org.uk allwch hefyd erbyn hyn dderbyn e-lythr. Dim ond cofrestri sydd raid!
Edrychwn ymlaen at eich croesawi yma eleni eto i un o Lyfrgelloedd mawr y byd, i chi gael gweld rhai o drysorau’r genedl, manteisio ar y teithiau tywys, paned a brechdan ym Mhen Dinas, cael saib yn yr Hafan neu ddarllen eich hoff nofel yn un o’r ystafelloedd darllen.
