![The College Aberystwyth [ca. 1895] The College Aberystwyth [ca. 1895]](http://gwasgair.llgc.org.uk/blogs/llgc/wp-content/uploads/2010/12/The-College-Aberystwyth-200x161.jpg)
The College Aberystwyth [ca. 1895
Nid oes gan y delweddau r’ym yn eu rhyddau ar ‘Flickr Commons’ unrhyw gyfyngiadau hawlfraint hysbys; fel arfer mae hyn yn golygu naill ai taw’r Llyfrgell Genedlaethol sy’n berchen ar yr hawlfraint, neu bod tymor cyfnod yr hawlfraint wedi dod i ben.
Unwaith yr wythnos rwy’n uwchlwytho grwp o ddelweddau i ‘Flickr Commons’ o’n casgliad digidol ac yna’n ychwanegu gwybodaeth berthnasol a ddaw o gofnodion catalog y delweddau e.e. teitlau, ffotograffydd a dyddiadau. ‘Rwyf hefyd yn defnyddio penawdau testunol o’r cofnod catalog i greu ‘tagiau’ ar gyfer y delweddau. I fod yn onest, yn aml y peth anoddaf am hyn yw penderfynu pa ddelweddau i’w uwchllwytho – mae gymaint o ddewis ar gael! Hyd yn hyn, ‘rydym eisioes wedi uwchlwytho dros 600 o ddelweddau a gymerwyd o gasgliadau ffotograffig P.B. Abery, Geoff Charles a John Thomas, ac hefyd o’n casgliadau o Ffotograffau Mewn Casys a Ffotograffiaeth Gynnar Abertawe.

Bechgyn o Drawsfynydd yn hel celyn ac uchelwydd, Rhagfyr 1959
Weithiau rydym yn defnyddio delweddau o’r casgliadau sy’n cyd-fynd â digwyddiadau neu dymhorau, e.e. ar hyn o bryd ceir ffotograffau sy’n ymwneud a’r Nadolig, a’n ffefryn i yw’r ffotograff gan Geoff Charles o’r bechgyn ifanc yn casglu celyn ac uchelwydd i’w gwerthu …
Beth sy’n wych am rannu ein casgliadau ar Flickr yw bod defnyddwyr eraill Flickr yn medru cyfoethogi’r delweddau drwy ychwanegu eu nodiadau eu hunain, sylwadau a thagiau, yn ogystal â’u nodi fel ‘ffefrynnau’, neu hyd yn oed ein gwahodd ni i ychwanegu’r delweddau i grwpiau eraill.
Gellwch ddod o hyd i’n tudalennau ‘Flickr Commons’ fan hyn: www.flickr.com/photos/llgc/.
Siân Medi Davies, Llyfrgellydd Cynorthwyol (Metadata), Is-adran Datblygiadau Digidol.
