Cyllideb y Bobl – Can mlynedd yn ôl

Ym mis Rhagfyr 1905 penododd y Prif Weinidog Rhyddfrydol, Syr Henry Campbell-Bannerman Lloyd George fel Llywydd y Bwrdd Masnach.  Yn Ebrill 1908 dyrchafwyd ef yn Ganghellor y Trysorlys yn llywodraeth newydd H. H. Asquith.  Galwyd cyllideb Lloyd George 1909 yn ‘gyllideb y bobl’ gan iddi greu darpariaeth ar gyfer yswiriant cenedlaethol i’w gyllido gan drethi ar dir a threth incwm.

David Lloyd George

Roeddent yn cynnwys codiadau sylweddol mewn trethi.  Tra byddai pobl ar incymau is yn talu naw ceiniog yn y bunt, byddai unigolion ag incwm o dros £3000 yn talu swllt a dwy geiniog yn y bunt.  Bu Lloyd George hefyd yn gyfrifol am gyflwyno ardreth arbennig o chwe cheiniog yn y bunt ar gyfer y rhai hynny a enillai dros £5000 y flwyddyn.  Yn ogystal cyflwynwyd cynnydd mewn trethi marwolaeth ar ystadau’r cyfoethog, ynghyd â threthi trymion ar yr elw a wnaed drwy berchen a gwerthu eiddo.  Ymhlith yr elfennau newydd eraill a gynhwysir o fewn cyllideb Lloyd George roedd sefydlu canolfannau gwaith ac ystyriaeth ar gyfer plant o fewn y gyfundrefn treth incwm.

Gwrthwynebodd y Ceidwadwyr, a chanddynt fwyafrif sylweddol o fewn T?’r Arglwyddi, yr ymgais hwn i ail-ddosbarthu cyfoeth, ac fe’i gwnaethant yn glir mai eu bwriad oedd blocio’r cynigion.  Gwrthod y cynigion yn wir a wnaeth T?’r Arglwyddi.  Ymateb Lloyd George oedd teithio drwy’r wlad gan draddodi areithiau mewn ardaloedd dosbarth gweithiol ar ran y gyllideb a phortreadu’r arglwyddi fel rhai a ddefnyddiai eu safle breintiedig i rwystro’r tlodion rhag derbyn eu pensiynau henoed.  Ar ôl brwydr faith gyda Th?’r Arglwyddi, llwyddodd Lloyd George i gael ei gyllideb drwy’r senedd.  Arweiniodd hyn yn ei dro at Ddeddf Seneddol 1911 (cydsyniad Brenhinol ar 18 Awst 1911) a thrwy hyn collodd yr Arglwyddi eu hawl i wrthod deddfwriaeth.
J. Graham Jones, Yr Archif Wleidyddol Gymreig

Cyhoeddwyd y cofnod hwn yn Archifau a Llawysgrifau. Nodwch y ddolen barhaol.

Comments are closed.



Symudwyd y cofnod hwn o'n platfform blogio blaenorol, gellir gweld y fersiwn gwreiddiol ar Archif Gwe y DU.