Rhan bwysig o’m rôl yn yr Uned Metadata yw ysgrifennu cyflwyniadau ar gyfer yr eitemau sy’n ymddangos ar y Drych Digidol. Y llynnedd, roeddwn ynghlwm â digido Papyri Oxyrhyncus (2il – 4ydd ganrif), ac fe’m rhyfeddwyd pan ddechreuais ymchwilio i mewn i’w hanes. Fe’u hadnabyddir fel Llsgr. NLW 4738D, ac maent yn 3 enghraifft o ddernynnau hynafol o bapyrws o’r Aifft (papur a wnaed o bith planhigyn y papyrws), a’r rhain yw’r llawysgrifau hynaf a gedwir yma yn y Llyfrgell Genedlaethol. Maent wedi eu hysgrifennu yn yr iaith Groeg, ac er eu bod yn bapurau cyffredin, pob dydd e.e. derbynneb am randaliad o dreth y pen, archeb gyflenwi pobydd, a llythyr personol, mae hanes eu cadw a’u darganfyddiad wedi dal fy nychymyg.
![[Llsgr. NLW 4738D: Llun agos o ddernyn 29d recto] [Llsgr. NLW 4738D: Llun agos o ddernyn 29d recto]](http://gwasgair.llgc.org.uk/blogs/llgc/wp-content/uploads/2010/12/pap00003-200x156.jpg)
Llsgr. NLW 4738D: Llun agos o ddernyn 29d recto
Yn rhyfeddol, roedd y darnau yma o bapur a oedd wedi eu taflu i ffwrdd, wedi cael eu diogelu mewn amodau delfrydol oherwydd lleoliad y dref – prin y bydd hi’n bwrw glaw yn y rhan hon o’r Aifft, ac oherwydd bod Oxyrhyncus wedi ei lleoli’n agos i gamlas, nid oedd yn dioddef oddi wrth y llifogydd blynyddol a oedd yn gyffredin ar lannau’r Nîl.
Cyn y darganfyddiad hwn, ni ystyriwyd Oxyrhyncus yn safle hynafol o bwysigrwydd, fodd bynnag, datgelodd yr archif anarferol hon rhywbeth yr oedd safleoedd clasurol Groeg a’r Eidal wedi methu â chadw – papur. Mae’r rhan fwyaf o’r papyri a ddarganfuwyd yn Oxyrhyncus yn gofnod o fywyd bob dydd, e.e. llythyrau preifat, rhestrau siopa a ffurflenni treth, ac maent yn cynnig cipolwg gwerthfawr o weithgareddau cymdeithasol trigolion y dref hynafol. Canfuwyd nifer o bapyri eraill hefyd, rhai ohonynt o natur lenyddol, yn ogystal â sawl copi cynnar o’r Testament Newydd.
Tra’n paratoi’r papyri ar gyfer eu digido, roeddwn yn synnu wrth feddwl bod y papurau hyn wedi goroesi ers bron i 1,900 o flynyddoedd a’u bod, ar un adeg, wedi eu taflu allan gyda’r sbwriel!
Os hoffech chi weld Papyri Oxyrhyncus ewch i Ddrych Digidol y Llyfrgell.
Siân Medi Davies, Llyfrgellydd Cynorthwyol (Metadata), Is-adran Datblygiadau Digidol.
