!["J D Ll" [185-] "J D Ll" [185-]](http://gwasgair.llgc.org.uk/blogs/llgc/wp-content/uploads/2010/12/viv00044-151x200.jpg)
"J D Ll" [185-
Yn 1856, darganfuodd John Dillwyn Llewelyn ei fod yn bosib, pan yn paratoi negyddion Colodion gydag Ocsimel, cymysgedd o fêl a finegr, i greu platiau ffotograffig sefydlog, a fyddai’n medru cael eu cadw am wythnos neu ddwy cyn eu datguddio hwy mewn camera, ac hefyd eu gadael am ychydig ddyddiau cyn eu datblygu. Golygai hyn na fyddai’n rhaid i ffotograffwyr tirluniau gario labordai cludadwy a phebyll i greu ystafelloedd tywyll gyda hwy er mwyn paratoi negyddion yn syth cyn eu datguddio.
Mae’r Llyfrgell Genedlaethol wedi digido ei chasgliad o ffotograffau gan John Dillwyn Llewelyn, ac un o’m ffefrynnau yw’r portread grŵp yma o’i blant, a dynnwyd, mwy na thebyg gan ddefnyddio negydd ocsimel, ym Medi 1856.
!["The Llewelyn Children" [1856] "The Llewelyn Children" [1856]](http://gwasgair.llgc.org.uk/blogs/llgc/wp-content/uploads/2010/12/viv00078-200x152.jpg)
"The Llewelyn Children" [1856
Mae’n bortread naturiol a hamddenoliawn o’r plant yn chwarae tu allan, ac yn wrthgyferbyniad o bortreadau stiwdio mwy ffurfiol y cyfnod.
Roedd ffotograffiaeth yn bwysig i nifer o aelodau’r teulu Dillwyn Llewelyn, a cheir mwy o’u ffotograffau ar y wefan, gyda detholiad hefyd i’w gweld ar ein gwefan Flickr Commons hefyd.
Siân Medi Davies, Llyfrgellydd Cynorthwyol (Metadata), Is-adran Datblygiadau Digidol.
