Awduron Cymru – Islwyn Ffowc Elis a Gillian Clarke

Mae tîm arddangosfeydd y Llyfrgell yn brysur yn cyfnewid arddangosfa Awduron Cymru, fydd ar hyn o bryd yn agor i’r cyhoedd dydd Sadwrn yma sef y 11eg o Ragfyr. Y nofelydd adnabyddus Islwyn Ffowc Elis a Bardd Cenedlaethol Cymru, Gillian Clarke, sydd dan sylw y tro yma. Mae’r arddangosfa yn cynnwys llawysgrifau, brasluniau, a ffotograffau, sy’n olrhain bywyd a gwaith y ddau lenor.

Islwyn Ffowc Elis

Islwyn Ffowc Elis

Ganwyd Islwyn Ffowc Elis yn nhŷ ei fodryb ger Acton, ger Wrecsam yn 1924, ond fe’i magwyd yn fab fferm yng Nglynceiriog. Islwyn oedd y llenor Cymraeg cyntaf i geisio ennill bywoliaeth drwy ysgrifennu yn broffesiynol.

Yn 1999, enillodd ei nofel Cysgod y Cryman (1953) wobr Llyfr y Ganrif gan Gyngor Celfyddydau Cymru.

Mae ei weithiau mwyaf adnabyddus yn cynnwys Cyn Oeri’r Gwaed (1952), Cysgod y Cryman (1953), Ffenestri Tua’r Gwyll (1953), Yn ôl i Leifior (1956), Wythnos yng Nghymru Fydd (1957), Blas y Cynfyd (1958), Y Blaned Dirion (1968), Y Gromlech yn yr Haidd (1971) a Eira Mawr (1972).

Ganwyd Gillian Clarke yng Nghaerdydd yn 1937 ac fe’i magwyd yng Nghaerdydd a Phenarth, er iddi dreulio cyfnod yn Sir Benfro yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Gillian Clarke

Gillian Clarke

Gillian Clarke yw un o feirdd amlycaf y Gymru gyfoes. Mae ei cherddi wedi derbyn cymeradwyaeth gwresog ar draws y byd, ac yn 2008 cafodd ei dewis yn Fardd Cenedlaethol Cymru.

Mae ei gweithiau mwyaf adnabyddus yn cynnwys Snow on the Mountain (1971), The Sundial (1978), Letter From a Far Country (1982), Letting in the Rumour (1989), The King of Britain’s Daughter (1993), Five Fields (1998), The Animal Wall (1999) Nine Green Gardens (2000), a Making the Beds for the Dead (2004).

Mae’r arddangosfa i’w gweld yn y Llyfrgell o 11 Rhagfyr 2010 i 26 Tachwedd 2011. Gellir cael fwy o wybodaeth am yr arddangosfa wrth edrych ar wefan Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Cyhoeddwyd y cofnod hwn yn Newyddion a Digwyddiadau. Nodwch y ddolen barhaol.

Comments are closed.



Symudwyd y cofnod hwn o'n platfform blogio blaenorol, gellir gweld y fersiwn gwreiddiol ar Archif Gwe y DU.