Cyngor Archifau a Chofnodion Cymru
Archives and Records Council Wales

NEWYDDION




AROLWG TGCh AMGUEDDFEYDD AC ARCHIFAU 2003

Mae holiadur ail Arolwg Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu Amgueddfeydd ac Archifau ar gael yn awr yn: http://www.peoplesnetwork.gov.uk/content/ictsurvey.asp.

Cynhaliwyd yr arolwg cyntaf yn 2001 er mwyn cael darlun llinell sylfaen o'r defnydd a wneir o TGCh gan amgueddfeydd ac archifdai'r DU, a'i datblygiad o ran isadeiledd, cynnwys a sgiliau. Mae'r ail arolwg yn ymchwilio'n fwy manwl i sut yr arferir y dechnoleg i ddarparu gwasanaethau i'r defnyddwyr. Bydd ei ffigyrau yn dystiolaeth werthfawr wrth geisio am ragor o fuddsoddiad mewn TGCh yn y sector hwn.



ADOLYGIAD COFNOD HENEBION CENEDLAETHOL (LLOEGR)

Mae Cyngor Archifau Cymru wedi derbyn gwahoddiad i gymryd rhan yn Adolygiad Cofnod Henebion Cenedlaethol (Lloegr). Gellir cael mwy o fanylion ynghyd â chopi o'r papur ymgynghorol yn: http://www.nmrreview.org/. Y dyddiad cau ar gyfer yr ymgynghoriad yw 4 Chwefror 2004.



Y TASGLU ARCHIFAU

Rhagwelir lansio'r adroddiad rywbryd yn ystod mis Mawrth 2004. Bydd y Tasglu yn ei drafod unwaith eto ym mis Ionawr. Yn Rhagfyr 2003 caiff y budd-ddeiliaid allweddol, gan gynnwys ACW, eu cylchredeg â rhagflas o gasgliadau'r adroddiad, a'i argymhellion. Bydd yr adroddiad yn ymwneud â materion fel: estyn allan a dehongli, adeiladu capasiti, arweinyddiaeth y peuoedd, a fframwaith hyfforddiant. Canolbwynt yr argymhellion fydd Rhwydwaith Archifau'r Deyrnas Unedig.



CYNLLUNIO I WELLA

Cynhelir Cynllunio i Wella: Cynhadledd Llyfrgelloedd a Gwybodaeth Cymru 2004 yng Ngwesty'r Metropole, Llandrindod, ar 11 Mawrth 2004 ac y mae'r rhaglen yn cynnwys sesiwn ar gyfer archifyddion: Stuart Davies, Resource, 'Casgliadau ac argymhellion y Tasglu Archifau'; Hywel Roberts, 'Y Tasglu Archifau a Chymru'; a Janice Taylor, Swyddog Datblygu Archifau Gogledd Orllewin Lloegr, 'Gweithredu ac adolygu strategaeth archifau ranbarthol y Gogledd Orllewin'. Bydd ffurflenni archebu ar gael yn fuan.



CyMAL

Mae swyddi CyMAL yn cael eu hysbysebu yn http://www.cymru.gov.uk/recruitment/cymal-w.htm.



SEMINAR HAWLFRAINT

Bydd Culturenet Cymru yn cynnal seminar ar hawlfraint yn Ystafell y Cyngor, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth, ar Ddydd Llun, 19 Ionawr 2004. Bydd y digwyddiad hwn am ddim, felly cyntaf i'r felin caiff falu. Os oes gennych ddiddordeb, dylech gadarnhau'ch presenoldeb mor fuan â phosibl. Anfonwch eich enw at: glyn@culturenetcymru.com.



Y CYNULLIAD A HANES LLEOL

Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Atebion i Gwestiynau nas cyrhaeddwyd yn y Cyfarfod Llawn, 19 Tachwedd 2003

Hybu Hanes Lleol

'Cwestiwn 9 Brian Gibbons: Pa gamau sy'n cael eu cymryd i hyrwyddo hanes lleol yng Nghymru? (OAQ29664)

Alun Pugh: Mae amgueddfeydd lleol, llyfrgelloedd a gwasanaethau archifo drwy Gymru yn darparu cefnogaeth i grwpiau hanes lleol a'r sawl sydd â diddordeb mewn olrhain hanes eu teulu. Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn darparu gwasanaeth hanes teulu cynhwysfawr, wedi'i deilwra i ymholiadau unigol. Yr wyf hefyd yn falch iawn o adrodd bod menter Llywodraeth y Cynulliad, prosiect Culturenet Cymru, Arwyr Cymru, wedi cael effaith enfawr. Mae'r wefan a sefydlwyd i gofnodi pleidleisiau wedi derbyn dros 1 filiwn o ymweliadau hyd yn hyn.

I weld y cofnod, ewch i mewn i: http://www.cymru.gov.uk/keypubrecordproceedings/index.htm; yna dewis 'Cyfarfodydd Llawn'; ac yna '19/11/2003, Atebion' (ceir yno fersiynau PDF a HTML).



ANABLEDD AC ARCHIFAU

Arweinlyfr Portffolio Anabledd Resource 10: Estyn Allan a Phartneriaethau

Mae Resource yn chwilio am enghreifftiau o brosiectau estyn allan a phartneriaethau sydd wedi eu datblygu rhwng archifdai a phobl, cyrff, a grwpiau anabl. Cysylltwch â Linda Sargent neu Marcus Weisen (marcus.weisen@resource.gov.uk / 020 7273 1408) os medrwch helpu.



CYFARFOD NESAF

Cynhelir cyfarfod nesaf Cyngor Archifau Cymru yn Adran Astudiaethau Gwybodaeth a Llyfrgellyddiaeth, Aberystwyth, ar 26 Mawrth 2004.


Yn ôl i'r Tudalen Blaen


Mae'r tudalennau hyn yng ngofal Swyddog y We
These pages are maintained by the Web Officer
© LLGC/NLW 1997-2005