Cyngor Archifau a Chofnodion Cymru
Archives and Records Council Wales
CYFANSODDIAD CYNGOR ARCHIFAU A CHOFNODION CYMRU (CACC)
Mabwysiadwyd gan CACC yn ei Gyfarfod Blynyddol Cyffredinol, 19 Tachwedd 2004.
- Enw
Gelwir y sefydliad yn Archives and Records Council Wales/Cyngor Archifau a Chofnodion Cymru.
- Amcanion
2.1 Dylanwadu ar bolisi yn ymwneud ag archifau a rheoli cofnodion yng Nghymru.
2.2 Dwyn materion o ddiddordeb cyfredol ym maes archifau a rheoli cofnodion yng Nghymru i sylw'r cyhoedd, y llywodraeth a sefydliadau neu gyrff perthnasol.
2.3 Darparu ffocws ar gyfer prosiectau cydweithredol ym maes archifau a rheoli cofnodion yng Nghymru.
2.4 Dwyn ynghyd sefydliadau a chymdeithasau yn ymwneud Ċ gweinyddu archifau a rheoli cofnodion yng Nghymru a darparu fforwm ar gyfer cyfnewid sylwadau yn rheolaidd.
- Aelodaeth
3.1 Bydd aelodaeth lawn o'r Cyngor yn cynnwys cynrychiolwyr o'r cyrff sy'n gweithio yng Nghymru ar y seiliau canlynol:
- cynrychiolydd o bob gwasanaeth archifau awdurdod lleol
- cynrychiolydd o unrhyw sefydliad addysg uwch sy'n cyflogi person proffesiynol cymwys
- cynrychiolydd o Lyfrgell Genedlaethol Cymru
- cynrychiolydd o Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru
- cynrychiolydd o Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru
- cynrychiolydd o Gwrs Archifau Prifysgol Cymru
- cynrychiolydd o unrhyw sefydliad sy'n darparu gwasanaeth archifol i'r cyhoedd a gwasanaeth rheoli cofnodion a gymeradwywyd drwy bleidlais gan aelodau yn y Cyfarfod Blynyddol Cyffredinol
3.2 Aelodau gyda statws arsylwi
- Yr Archifau Cenedlaethol
- CyMAL
- Ysgrifennydd cofnodion (i'w enwebu/henwebu gan yr Ysgrifennydd)
- cynrychiolydd o Gymdeithas Archifyddion Cymru
- cynrychiolydd o Uned Rheoli Gwybodaeth Cynulliad Cenedlaethol Cymru
- cynrychiolydd o unrhyw Grwp Rheoli Cofnodion Cymru
3.3 Ceisiadau am aelodaeth
Dylai sefydliadau sy'n dymuno ymuno â'r Cyngor fel aelodau cyflawn neu fel aelodau gyda statws arsylwi nas nodir yn 3.1-3.2 wneud cais ffurfiol am aelodaeth i'r Ysgrifennydd. Cynhelir pleidlais ar y cyfryw geisiadau yn y Cyfarfod Blynyddol Cyffredinol.
- Cyfarfodydd
Dylid cynnal Cyfarfod Blynyddol Cyffredinol ac o leiaf dau gyfarfod o gynrychiolwyr bob blwyddyn. Y Cyfarfod Blynyddol Cyffredinol fydd y cyfarfod olaf i'w gynnal bob blwyddyn.
- Pleidleisio
Aelodau cyflawn yn unig sydd â'r hawl i bleidleisio mewn cyfarfodydd.
- Swyddogion
6.1 Y Gadair
6.1.1 Etholir y Gadair yn flynyddol o blith yr aelodau cyflawn yn y Cyfarfod Blynyddol Cyffredinol.
6.1.2 Ni ddylai'r un unigolyn wasanaethu fel Cadair am fwy na thair blynedd yn olynol.
6.2 Is-Gadeirydd
6.2.1 Etholir yr Is-Gadeirydd yn flynyddol o blith yr aelodau cyflawn yn ystod y cyfarfod blynyddol cyffredinol.
6.2.2 Bydd yr Is-Gadeirydd fel arfer yn cymryd lle'r Gadair pan ddaw'r tymor presennol i ben.
6.3 Ysgrifennydd
6.3.1 Etholir yr Ysgrifennydd yn flynyddol o blith yr aelodau cyflawn yn y Cyfarfod Blynyddol Cyffredinol. Dylai'r enwebiadau gyrraedd yr Ysgrifennydd o leiaf wythnos cyn y Cyfarfod Blynyddol Cyffredinol. Cynhelir pob etholiad drwy bleidlais gudd yn y Cyfarfod Blynyddol Cyffredinol.
6.4 Trysorydd
6.4.1 Etholir y Trysorydd yn flynyddol o blith yr aelodau cyflawn yn y Cyfarfod Blynyddol Cyffredinol. Dylai'r enwebiadau gyrraedd yr Ysgrifennydd o leiaf wythnos cyn y Cyfarfod Blynyddol Cyffredinol. Cynhelir pob etholiad drwy bleidlais gudd yn y Cyfarfod Blynyddol Cyffredinol.
6.4.2 Y Trysorydd fydd yn gyfrifol am gasglu tanysgrifiadau a pharatoi adroddiad ariannol blynyddol a gyflwynir i aelodau yn y Cyfarfod Blynyddol Cyffredinol.
6.4.3 Bydd y cyfrifon yn cael eu harchwilio'n flynyddol gan ddau aelod a enwebwyd.
- Cyfethol
Gall y Cyngor gyfethol aelodau am gyfnod dros dro, lle bo hynny'n briodol. Adolygir cyfethol aelodau yn y Cyfarfod Blynyddol Cyffredinol.
- Grwpiau gorchwyl a gorffen
8.1 Gall y Cyngor sefydlu grwpiau gorchwyl a gorffen i drafod materion penodol lle bo hynny'n briodol.
8.2 Rhoddir cylch gorchwyl penodol i bob grwp gorchwyl a gorffen.
8.3 Gall y Cyngor gyfethol aelodau i'r cyfan neu i rai o'r grwpiau gorchwyl a gorffen; nid oes yn rhaid i'r aelodau cyfetholedig hyn fod yn perthyn i un o'r sefydliadau a nodir yn benodol yn 3.1-3.2 uchod.
- Amcanion blynyddol, cofnodion, agendâu
9.1 Bydd y Cyngor yn llunio rhestr o amcanion ar gyfer pob blwyddyn.
9.2 Bydd cofnodion cyfarfodydd ar Wefan y Cyngor o leiaf bythefnos cyn pob cyfarfod.
9.3 Cylchredir agendâu a phapurau i aelodau o leiaf bythefnos cyn pob cyfarfod.
9.4 Dylai aelodau sydd am gylchredeg papurau eu hanfon i'r Ysgrifennydd o leiaf fis cyn y cyfarfod.
- Quorum
10.1 Bydd quorum o bump ar hugain y cant (25%) o'r aelodau cyflawn.
- Tanysgrifiadau
11.1 Bydd pob sefydliad sy'n aelod yn talu tanysgrifiad o £50 y flwyddyn i'w gasglu gan y Trysorydd.
11.2 Gellir amrywio tanysgrifiadau drwy gael pleidlais y mwyafrif yn y Cyfarfod Blynyddol Cyffredinol.
11.3 Cyfrifoldeb yr aelodau fydd gofalu am eu costau teithio eu hunain, ayyb, i gyfarfodydd y Cyngor.
- Dirprwyo
12.1 Gall aelodau cyflawn anfon dirprwy i fynychu cyfarfodydd ar eu rhan.
- Diwygio'r cyfansoddiad
13.1 Gall y cyfansoddiad hwn gael ei ddiwygio gan benderfyniad dwy ran o dair o'r aelodau a fo'n bresennol ac yn pleidleisio mewn cyfarfod cyffredinol.
13.2 Bydd y cyfansoddiad hwn yn disodli Canllawiau Cyngor Archifau Cymru sy'n bodoli ar hyn o bryd.
Yn ôl i'r Tudalen Blaen
Mae'r tudalennau hyn yng ngofal
Swyddog y We
These pages are maintained by the
Web Officer
© LLGC/NLW 1997-2007