Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd yn Llyfrgell Genedlaethol
Cymru ar 2 Mawrth 2000.
Presennol: S Edwards (Morg, Cadeirydd);
S Beckley (GMorg); E Bennett (PCAbertawe); M Ellis (AGaLl);
A Lloyd Hughes (AOCC); G Jenkins (LlGC); R Jones (Henebion);
S Jones (PRO); C Kitching (HMC); K Matthias (Dinbych);
A Rhydderch (Gwynedd); R Williams (CymdArch);
J Watts-Williams (LlGC); ac, ar gyfer eitem gyntaf yr agenda,
D Jeremiah (LlGC).
Ymddiheuriadau: D Leitch (PRO); H Malaws (Henebion);
L Tomos (AGaLl).
| 1 | Cofnodion y cyfarfod diwethaf |
| Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod diwethaf a gynhaliwyd ar 12 Tachwedd 1999. |
| 2 | Rhwydwaith Archifau Cymru |
| Adroddodd GJ am ei gyfarfod ef a SE â swyddogion CDL. Ar sail y drafodaeth honno, ei gyngor ef oedd y dylid tynnu'r cais presennol yn ôl i'w ailsaernïo. Y prif bwyntiau i ymgiprys â hwy oedd anghymwyster CAC i fod yn `endid cyfreithiol', creu cynllun un cymal, ac egluro strwythur rheolaeth y prosiect. Penodwyd Gweithgor Cyfansoddiad (Hilary Malaws, Susan Beckley, a Rowland Williams) i ddatrys problem yr endid cyfreithiol; ac atgyfodwyd yr Is-bwyllgor Rhwydweithio i ystyried ailsaernïo'r cais. Byddai CAC yn cyfarfod eto yn gynnar ym mis Mai i dderbyn adroddiadau'r ddau grŵp a cheisio ailgyflwyno'r cais cyn diwedd Mai. |
| 3 | Prosiect Mapio |
| Adroddodd SJ fod David Leitch yn dechrau llunio'r adroddiad a bod disgwyl i'r adroddiad fod yn barod i'w ddosbarthu erbyn y Pasg. Yna byddai DL yn gobeithio derbyn yr ymatebion i'w alluogi i gynhyrchu'r adroddiad terfynol erbyn diwedd mis Mai. |
| 4 | CWLIS |
| Adroddodd SE am gyfarfod Pwyllgor Gwaith CWLIS a fynychwyd ganddi lle y trafodwyd y materion canlynol: | |
| 4.1 | Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol: i'w gynnal yn yr Amgueddfa Genedlaethol ar 5 Ebrill. |
| 4.2 | Ceisiadau Cronfa'r Cyfleoedd Newydd (NOF): prosiect `Casglu'r Gemau'; a phrosiect Dinasyddiaeth Weithredol, `Cymryd Rhan'. |
| 4.3 | DRWS: roedd Cymdeithas Wybodaeth Cymru (WIS) wedi mynegi diddordeb yng nghynllun DRWS, a ddatblygwyd gan Brifysgol Cymru Abertawe ar gyfer WHELF, i ddarparu porth electronig ar gyfer deunydd perthynol i Gymru. |
| 4.4 | Comisiwn Archifau, Llyfrgelloedd ac Amgueddfeydd Cymru (MLAC Cymru): cytunodd CWLIS i bwyso am gyhoeddi'r papur ymgynghorol ar y pwnc hwn a addawyd gan swyddogion y Cynulliad Cenedlaethol ym mis Hydref 1999. |
| 4.5 | Rhwydwaith y Bobl: dosbarthwyd adroddiad am y cynnydd hyd yn hyn, a dilynwyd hwnnw gan adroddiad am y Grŵp Partner Dadleniad Llawn yn y Llyfrgell Brydeinig. |
| 5 | Comisiwn Archifau, Llyfrgelloedd, ac Amgueddfeydd (MLAC) a Chymru |
| Adroddodd SE am gyfarfod cynrychiolwyr y tair sector a fynychwyd ganddi hi a GJ yn swyddfeydd Cyngor yr Amgueddfeydd yng Nghymru. Pryderwyd mai ychydig iawn oedd yn digwydd o ran sefydlu CALlA Cymru a chafwyd cyfarfod cynhyrchiol yn canfod tir cyffredin i'r tri sector ac yn gosod amcanion a nodau dros dro. Trafodwyd dogfen ymgynghorol MLAC, ac wedi'r cyfarfod ysgrifennodd Lionel Madden at Russell Thomas yn y Cynulliad yn cynnig y dylid ystyried y grŵp yn gorff ymgynghorol er sefydlu CALlA Cymru. | |
| Trafododd CAC berthynas Cymru â MLAC. Nodwyd nad oedd fawr ddim o sôn am archifau yn y ddogfen ymgynghorol. Yn ôl CK, roedd MLAC yn dal yn agored ei feddwl ynglŷn â'i gylch gorchwyl ac nid oedd y ddogfen yn gwneud cyfiawnder â gwybodaeth MLAC am y sector archifau. Barnai'r cyfarfod y gallai'r sector archifau fod ar ei ennill o sefydlu corff tebyg yng Nghymru. |
| 6 | Polisi Archifau Cenedlaethol |
| Roedd y ddogfen ddrafft yn barod i'w dosbarthu. Byddai ME yn postio copi ohoni i bob corff sy'n perthyn i CAC, gan ofyn iddynt anfon eu sylwadau at SE/EB/ME erbyn diwedd mis Mawrth. |
| 7 | Cronfa'r Cyfleoedd Newydd (NOF) |
| Roedd cais Consortiwm Casglu'r Gemau am tua £1m i weithredu ei brosiect digideiddio ar thema Cymuned wedi ei gyflwyno ym mis Ionawr. Byddai pob sefydliad yn sectorau amgueddfeydd, llyfrgelloedd, ac archifau yn cael cyfle i gyfrannu at y prosiect. Roedd CWC yn ariannu'r ymgynghoriad er paratoi'r cais ail gymal. Roedd archifau â chynrychiolaeth gref yn y Consortiwm a gallai pawb oedd â diddordeb ddisgwyl rhagor o ymgynghori cyn bo hir. |
| 8 | NCA |
| Nid oedd NCA wedi cwrdd oddi ar cyfarfod diwethaf CAC. Roedd newyddlen mis Ionawr NCA wedi ei dosbarthu gyda'r cofnodion, a dosbarthwyd newyddlen mis Chwefror yn ystod y cyfarfod. |
| 9 | Cyfansoddiad |
| Derbyniwyd y canllawiau newydd yn ddiwrthwynebiad. |
| 10 | Tanysgrifiadau |
| Penderfynwyd mynnu tanysgrifiad gan y cynrychiolwyr yn unig, nid yr aelodau i gyd. |
| 11 | Adroddiad Blynyddol |
| Roedd Adroddiad Blynyddol CAC wedi ei ddosbarthu gyda'r cofnodion. |
| 12 | Heirnet (Historic Environment Information Resources Network) |
| Penderfynwyd derbyn cynnig ysgrifenedig gan Hilary Malaws i gynrychioli CAC yn ogystal â Henebion yng nghyfarfodydd Heirnet. |
| 13 | Cyfarfod Gregynog 2000 |
| Cytunwyd i ddechrau trefnu cyfarfod blynyddol Gregynog ar gyfer diwedd Medi. Byddai RW yn ei grybwyll i'r Cyfarfod Rhanbarth nesaf yng Nghaerdydd ar 20 Mawrth. |
| 14 | Rhanbarth Cymru Cymdeithas yr Archifyddion |
| Byddai Tom Middlehurst AC, Ysgrifennydd Addysg Dros 16, yn galw heibio'r cyfarfod nesaf, a oedd i'w gynnal yn Archifdy Morgannwg ar ddydd Llun, 20 Mawrth. Yna byddai panel yn cynnwys Mary Clapinson, Rhidian Griffiths, a Jane Pierson Jones, yn arwain trafodaeth am strwythurau'r sector dreftadaeth yn y dyfodol. |
| 15 | Cyfarfod nesaf |
| I'w drefnu. |
Yn ôl i'r Tudalen Blaen