Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd yn Llyfrgell Genedlaethol
Cymru ar 24 Awst 2000.
Presennol: S Edwards (Morg, Cadeirydd); S Beckley (GMorg);
E Bennett (PCAbertawe); M Ellis (AGaLl); A Lloyd Hughes (AOCC);
G Jenkins (LlGC); R Baker (HMC); D Rimmer (Gwent);
A Rhydderch (Gwynedd) ); L Tomos (AGaLl);
R Williams (CymdArch); J Watts-Williams (LlGC).
Ymddiheuriadau: S Jones (PRO); H Malaws (Henebion).
| 1 | Cofnodion y cyfarfod diwethaf |
| Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod diwethaf a gynhaliwyd ar 2 Mawrth 2000. |
| 2 | Tanysgrifiadau |
| Enwyd y tanysgrifiadau oedd heb ddod i law. |
| 3 | Cyfarfod Gregynog 2000 |
| Roedd trefniadau cyfarfod blynyddol Gregynog ar 9 Medi wedi eu cwblhau. |
| 4 | Rhanbarth Cymru Cymdeithas yr Archifyddion |
| Cafwyd cyfarfod llwyddiannus yng Nghaerdydd ar 20 Mawrth. |
| 5 | Polisi Archifau Cymru |
| Trafodwyd y ddogfen ddrafft a ddosbarthwyd gan ME cyn y cyfarfod. Penderfynwyd newid teitl y ddogfen i 'Polisi Cenedlaethol Cymru ar Archifau a Chofnodion'; a gwnaethpwyd ambell amrywiad arall hwnt ac yma. Trafodwyd hefyd y trefniadau ar gyfer cyhoeddi'r ddogfen derfynol a'i chyflwyno i'r Cynulliad. Penderfynwyd argraffu mil o gopïau. |
| 6 | Resource a Chymru |
| Roedd SE wedi ymuno â'r pwyllgor llywio dan gadeiryddiaeth Russell Thomas i drafod y ddogfen a baratowyd gan Hywel Roberts, AAGaLl. Nodwyd bod gwasanaethau archifau Lloegr yn elwa'n fawr o weithgarwch Resource a bod Cymru ar ei hôl hi unwaith eto. |
| 7 | Cyfansoddiad |
| Cafwyd adroddiad gan SB. Roedd cyfreithiwr Dinas a Sir Abertawe wedi ystyried goblygiadau troi CAC yn endid cyfreithiol. Er bod adroddiad y cyfreithiwr wedi'i gylchredeg i aelodau gweithgor CAC ers peth amser, nid oedd SB wedi derbyn unrhyw ymateb na gwneud mwy amdano ei hun. Dosbarthwyd copi o adroddiad y cyfreithiwr i bawb a oedd yn bresennol, ond penderfynwyd nad oedd amser i'w drafod. Cytunwyd y dylai SB ofyn i'r cyfreithiwr wneud mwy o ymchwil. Soniodd GJ fod NCA yn drafftio cyfansoddiad ar gyfer cwmni wedi ei gyfyngu gan warantiadau, ond efallai fod CAC yn wahanol oherwydd y mae mwy o awdurdodau lleol ynglŷn ag ef. Yn nes ymlaen byddai GJ yn holi Cyfarwyddwr Gweinyddiaeth LlGC am ei farn ar gyfansoddiad drafft CAC. |
| 8 | Prosiect Mapio |
| Roedd ffacs Steven Jones (PRO) wedi dod i law ychydig cyn y cyfarfod yn dweud bod y dadansoddi wedi'i orffen, a'r adroddiad terfynol a'r casgliadau wedi'u hamlinellu. Roedd SJ yn barod i drafod yr amserlen newydd. Mynegwyd peth pryder fod y data'n rhy hen erbyn hyn, ond cytunwyd bod angen cwblhau'r adroddiad. Penderfynwyd gofyn i SJ am amserlen newydd; sicrwydd fod data Cymru yn dal cymhariaeth â data Lloegr; a chopi o bob holiadur a gasglwyd er mwyn i'r sefydliadau eu gwirio heddiw. Cytunwyd i ddosbarthu copi o'r ffacs i bob aelod o CAC. |
| 9 | Rhwydwaith Archifau Cymru |
| Cafwyd adroddiad gan y Cadeirydd: cynrychiolwyr y partneriaid wedi cwrdd yn LlGC ym Mehefin a chytuno ar gynnwys yr elfen gatalogio a'r bwriad cyffredinol. Roedd Grŵp yr Archifyddion Sirol yn llunio rhestr o'r casgliadau y dylid rhoi blaenoriaeth iddynt. Hyblygrwydd y dull gweithredu ambell archifdy i baratoi'r disgrifiadau gartref. Cyfansoddiad CAC gweithgor yn ei baratoi. Graddfa gweithredu 8 disgrifiad lefel casgliad yr wythnos. Strwythur reoli angen mwy o fanylder. Caledwedd a meddalwedd David Jeremiah yn ailasesu'r gofynion a'r costau. Arian partneriaeth angen mwy o fanylion. Cynaladwyaeth angen ymroddiad pob partner. Dosbarthwyd gan LT ganlyniadau holiadur CAC (3 Ebrill 2000) ynghylch TGaCh ac archifau Cymru. Awgrymodd SE efallai y byddai is-bwyllgor RhAC yn cyfarfod ganol mis Hydref i asesu'r cynnydd a thrafod ail-ysgrifennu'r cais. Roedd GJ o'r farn y dylai'r grŵp lletach gael cais diwygiedig yn sail i'w drafodaeth. Nodwyd mai'r prif anhawster oedd cael rhywun i baratoi'r cais diwygiedig. Roedd GJ yn gyndyn i gynnig gwasanaeth staff LlGC os byddai'r holl waith ychwanegol yn mynd yn ofer unwaith yn rhagor; ond er mwyn ceisio osgoi'r gost o gyflogi rhywun i wneud y gwaith, penderfynwyd gofyn i David Jeremiah. |
| 10 | CWLIS |
| Adroddodd SE am gyfarfod 31 Mai 2000: WIS; Resource Cymru; strategaeth y Llyfrgell Brydeinig; datganiad gweledigaeth y Cynulliad; lansio'r safle e-lywodraeth cyntaf a Rhwydwaith y Bobl ar 11 Medi; cynllun strwythur TG y Cynulliad; cyfrannu at Addysg Gydol Oes ac adfywio cymunedau; CCN (NOF) a hyfforddiant; cronfa ymchwil WHELF. |
| 11 | Cronfa'r Cyfleoedd Newydd (NOF) |
| Casglu'r Tlysau cymal cyntaf y cais wedi'i gymeradwyo; yr ail gymal i'w baratoi erbyn Rhagfyr; yr holl bartneriaid i gyfarfod yn Llanbadarn, 4 Medi; Gayle Evans i sôn am y prosiect yng Ngregynog. |
| 12 | NCA |
| Cafwyd adroddiad gan GJ: Nick Kingsley yn llenwi swydd newydd yr is-gadeirydd; y Cynghorau Archifau Rhanbarthol ddim yn cael cyllid gan DCMS; gobaith troi dogfen A2A yn safon Brydeinig; arolwg Bruce Jackson yn dangos bod y nifer annigonol o gadwraethwyr a recriwtir yn peri gofid. |
| 13 | Cyfarfod nesaf |
| Dydd Gwener, 10 Tachwedd 2000, yn LlGC. |
Yn ôl
i'r Tudalen Blaen