Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd yn Llyfrgell Genedlaethol
Cymru ar 10 Tachwedd 2000
| 1 | Cofnodion y cyfarfod diwethaf |
| Wedi newid geiriad cofnod 9 i ddarllen 'cynrychiolwyr y partneriaid wedi cwrdd yn LlGC ym Mehefin', cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod diwethaf a gynhaliwyd ar 24 Awst 2000. |
| 2 | Tanysgrifiadau |
| Enwyd y tanysgrifiadau oedd heb ddod i law. |
| 3 | Cyfarfod Gregynog 2000 |
| Adroddwyd bod cyfarfod blynyddol llwyddiannus wedi ei gynnal yng Ngregynog ar 9 Medi. |
| 4 | Polisi Archifau Cymru |
| Nodwyd bod y testun gyda Gwynedd yn cael ei gyfieithu. Roedd Cambrian Printers wedi cytuno i argraffu mil o gopïau'r ddogfen 32-tudalen am £1800. Roedd cais CAC am £1200 yn dal heb ei gymeradwyo'n ffurfiol gan Gymdeithas yr Archifyddion. Cafodd ME ymateb cadarnhaol gan LT ynghylch y £600 arall. O ran y cyflwyniad, penderfynwyd ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Diwylliant newydd, Jenny Randerson, yn mynegi'r hyn y dymunai CAC ei wneud. Cytunwyd hefyd i roi'r ddogfen, wedi'r cyflwyniad, ar hysbysfan NRA a gwefan CAC. Roedd CAC yn barod i dalu'r costau postio. Nodwyd bod Cymdeithas y Llyfrgelloedd yn awyddus i gynnwys yn ei chylchlythyr erthygl fer am y polisi. |
| 5 | Resource a Chymru |
| Adroddwyd bod Hywel Roberts wedi dechrau holi unigolion a'i fod yn mynd i sôn am ei waith yng nghyfarfod Cymdeithas yr Archifyddion yn AGaLl ar 20 Tachwedd. |
| 6 | Prosiect Mapio |
| Roedd adroddiad SJ wedi ei gylchredeg gyda'r cofnodion a'r agenda cyn dyddiad y cyfarfod. Cytunwyd i dderbyn strategaeth SJ ar gyfer cwblhau'r adroddiad, gan gynnwys diweddaru'r data, a oedd yn awr yn ddwy flwydd oed, erbyn 31 Ionawr 2001. |
| 7 | Rhwydwaith Archifau Cymru |
| Cytunwyd i ganiatáu i GJ a SE wthio'r prosiect yn ei flaen trwy: | |
| (a) gymeradwyo'r prosiect ar y cyd rhwng HMC a LlGC i gynhyrchu disgrifiadau lefel fonds o gofnodion teuluoedd a stadau Cymru rhwng Ebrill 2001 a Mawrth 2002 (prosiect a fyddai efallai yn gymwys i'w gyfrif yn arian cyfatebol ar gyfer prosiect RhAC); a | |
| (b) cyflwyno cais dau-gymal i GDL am (1) arian datblygu i ymchwilio yn hydref 2001 i'r ateb technegol gorau a strwythur rheoli'r prosiect; a (2) arian i ddechrau'r prosiect RhAC go iawn yn Ebrill 2002. |
| 8 | Cyfansoddiad |
| Adroddodd SB fod y gweithgor wedi cyfarfod y mis blaenorol i drafod cyfansoddiad drafft NCA a anfonwyd ati gan GJ. Roedd y newidiadau a gytunwyd gan y grŵp wedi'u rhoi i gyfreithwraig Dinas Abertawe, a oedd yn ymddiheuro am na chawsai amser i gwblhau'r drafft. Cynigiwyd bod cyfarfod nesaf CAC ym mis Chwefror neu Fawrth yn cael ei gynnal yn Abertawe fel y bo'r gyfreithwraig ei hun yn gallu cyfrannu at y drafodaeth. |
| 9 | CWLIS |
| Adroddodd SE am y materion a drafodwyd yng nghyfarfod diwethaf CWLIS, gan gynnwys strategaeth wybodaeth y Cynulliad; y rhwydwaith band llydan er hyrwyddo dysgu gydol oes; ariannu DRWS; ac argraffiad cyntaf Y Ddolen yn ei ffurf bresennol. |
| 10 | Cronfa'r Cyfleoedd Newydd (NOF) |
| Casglu'r Tlysau - bu llawer o ddatblygiadau yn ystod y misoedd diwethaf: trafodaethau am y cynnwys, symud dyddiad cyflwyno'r cais o Ragfyr 2000 i Chwefror 2001, a pharatoi safonau a threfniadaethau manwl er mwyn arbed yr eitemau rhag pob niwed. Credid y byddai'r fethodoleg a'r safonau a ddeilliai o'r prosiect hwn yn cynnig eu hunain yn batrwm defnyddiol ar gyfer prosiectau digideiddio eraill. |
| 11 | NCA |
| Adroddodd GJ am gyfarfod mis Medi. Roedd NCA wedi cofrestru ei hun yn gwmni ac yn elusen. Nid oedd Cathrin Cassarchis yn Gynghorydd y Loteri mwyach a gobeithid penodi ei holynydd cyn gynted â phosibl. Roedd Resource yn ariannu yn Lloegr (a) swyddog i ddatblygu'r Cynghorau Archifau Rhanbarthol a (b) prosiectau cydweithredol. Penodasid Justin Frost yn Gynghorydd Archifau Resource. | |
| Roedd GJ wedi derbyn llythyr yn ei hysbysu nad oedd CAC wedi talu ei danysgrifiad i NCA ers pum mlynedd. Penderfynwyd y dylai CAC dalu'r tanysgrifiad blynyddol o £200. |
| 12 | Trefniadaeth y Dyfodol |
| 12.1 | Ymestyn yr aelodaeth |
| Nodwyd bod y CCB blaenorol wedi trafod y posibilrwydd o ymestyn aelodaeth CAC. Penderfynwyd gohirio'r mater tan fis Chwefror pan fyddai cyfansoddiad CAC yn destun trafod cyfarfod nesaf y Cyngor. | |
| 12.2 | Nodau 2000-2001 |
| Gosodwyd y nodau canlynol ar gyfer y deuddeng mis dilynol: | |
| 12.2.1 | Hybu cynlluniau'r Cyngor i ddatblygu Rhwydwaith Archifau Cymru cyhyd â'u bod yn derbyn cefnogaeth CDL |
| 12.2.2 | Trefnu cyfarfod archifyddion Cymru yng Ngregynog ar y cyd â Chymdeithas yr Archifyddion |
| 12.2.3 | Derbyn yr adroddiad terfynol am y Prosiect Mapio |
| 12.2.4 | Cyfranogi'n llawn ym mhrosiect Casglu'r Tlysau yn ystod ei ddatblygiad a'i weithrediad, cyhyd â'i fod yn derbyn cefnogaeth CCN |
| 12.2.5 | Cytuno ar Bolisi Archifau Cenedlaethol a'i gyflwyno i Gynulliad Cenedlaethol Cymru |
| 12.2.6 | Cefnogi Cynhadledd Flynyddol Cymdeithas yr Archifyddion yn Aberystwyth 2001 |
| 12.2.7 | Ffurfio endid cyfreithiol |
| 12.2.8 | Cyfrannu i'r adroddiad am gydweithio rhwng archifau, llyfrgelloedd, ac amgueddfeydd |
| 13 | Ethol swyddogion |
| Etholwyd y swyddogion canlynol: | |
| Cadeirydd: Susan Edwards | |
| Ysgrifennydd: Gwyn Jenkins |
| 14 | Adroddiad y Cynulliad am Ddiwylliant |
| Bu peth trafodaeth am y cynnig i lunio ymateb swyddogol i Adroddiad y Cynulliad am Ddiwylliant, a chytunwyd i ysgrifennu llythyr cwrtais yn dweud y byddai'r adroddiad wedi bod ar ei ennill o gyfeirio at yr etifeddiaeth ddogfennol yn ogystal â'r etifeddiaeth lenyddol. |
| 15 | Adroddiad blynyddol |
| Cytunodd GJ i baratoi adroddiad blynyddol CAC. |
| 16 | Yr Archifdy Gwladol |
| Amlinellodd SJ y newidiadau a ddigwyddodd yn ddiweddar yn nhrefniadaeth fewnol yr Archifdy Gwladol, gan baratoi'r ffordd ar gyfer e-fusnes ac e-lywodraeth. |
| 17 | Concordat â'r Cynulliad Cenedlaethol |
| Roedd SJ yn credu bod y ddogfen ar fin ei harwyddo, os nad oedd hi wedi ei harwyddo eisoes. |
| 18 | Cyfarfod nesaf |
| Cytunwyd i ganiatáu i SB a GJ drefnu cyfarfod yn Abertawe ar ryw ddydd Gwener ym mis Chwefror. |
Yn ôl
i'r Tudalen Blaen