Cyngor Archifau a Chofnodion Cymru
Archives and Records Council Wales


Cofnodion y cyfarfod arbennig a gynhaliwyd yn Archifdy Morgannwg, Caerdydd, ar 24 Medi 2001


Presennol: S Edwards (Morg, Cadeirydd); R Baker (HMC); S Beckley (GMorg); E Bennett (PCAbertawe); A Berwick (NCA); G Edwards (Henebion); G Evans (AOCC); D Jeremiah (LlGC); K Matthias (Dinbych); M Owen (LlGC); D Rimmer (Gwent); A Rhydderch (Gwynedd); R Williams (CymdArch); J Watts-Williams (LlGC).

Ymddiheuriadau: S Davies (PCAberystwyth); M Ellis (PCAberystwyth); A Green (PCAbertawe); G Jenkins (LlGC); S Jones (PRO); H Malaws (Henebion); H Palmer (Ceredigion); G Reid (Powys); R Sargent (HMC); L Tomos (AGaLl); A Venables (Ynys Môn).

1Croeso
Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod arbennig hwn i drafod cynllun Rhwydwaith Archifau Cymru a'r cais i GDL am gymorth ariannol.

2Rhwydwaith Archifau Cymru
Trafodwyd dogfen ddrafft y cais yn fanwl. Ar y materion pwysicaf cytunwyd:
2.1y dylai'r partneriaid i gyd ymateb yn llawn gan nodi faint o'u fonds sydd i'w cynnwys yn y cynllun ar sail eu harwyddocâd ac enwi enghreifftiau ohonynt;
2.2y dylid rhoi mwy o bwyslais ar angenrheidrwydd y prosiect;
2.3bod angen cwtogi'r crynodeb gweithredol er mwyn i GDL dderbyn yr ergyd ar y ddalen gyntaf a chael ei annog i ddarllen mwy;
2.4bod angen egluro'r costau;
2.5bod angen cwblhau'r memoranda dealltwriaeth - dosbarthwyd drafft (A Mine of Information) yn ystod y cyfarfod fel y model tebycaf i'w ddefnyddio;
2.6y dylai pob partner ymrwymo i dalu rhywfaint tuag at y swm o £125,000 yr oedd yn rhaid ei ganfod fel cyfraniad cyfatebol;
2.7y dylai CAC anelu i gyflwyno'r cais ar ddechrau mis Rhagfyr 2001.
Diolchwyd i Lyfrgell Genedlaethol Cymru am ei hymdrechion i baratoi'r ddogfen gais.

3Polisi Archifau Cenedlaethol, Prosiect Mapio, a Thaflenni Cymdeithas yr Archifyddion
Adroddwyd bod cynrychiolwyr CAC a Chymdeithas Archifyddion Cymru yn mynd i gyfarfod â gweinidog y Cynulliad, Jenny Randerson, ar 9 Hydref 2001 i gyflwyno'r ddogfen Bolisi, yr adroddiad Mapio, a thaflenni'r Gymdeithas. Byddai Gwyn Jenkins yn sôn wrthi hefyd am gais ANW ac yn gofyn am gefnogaeth y Cynulliad. Yn ogystal, roedd bwriad i lansio'r Polisi yn y Senedd ym mis Chwefror 2002.

4Jiwbili Aur
Roedd CAC wedi derbyn gwahoddiad i gyfarfodydd paratoi dathliadau Jiwbili Aur y Frenhines ym mis Mehefin 2002. Doedd neb yn gallu mynd.

5Cyfarfod Cyhoeddus CDL
Roedd CAC wedi ei wahodd i gyfarfod cyhoeddus CDL yn Neuadd Brangwyn, Abertawe, ar 9 Hydref 2001. Cytunodd Susan Beckley i fynd yno ar ran CAC.

6Archifau'r DU Ar-lein
Roedd cadeirydd CAC wedi ei gwahodd i gyfarfod Archifau Ar-lein yn yr Archifdy Gwladol ar 18 Hydref 2001.

7Cyfarfod nesaf
Cytunwyd i gyfarfod nesaf yng Nghaerdydd ar 16 Tachwedd 2001.


Yn ôl i'r Tudalen Blaen


Mae'r tudalennau hyn yng ngofal Swyddog y We
These pages are maintained by the Web Officer
© LLGC/NLW 1997-2005